Ymosodiad Llundain: Arestio seithfed dyn yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Gweithgaredd yr heddlu yn ardal Pen-y-Waun
Dywed Heddlu Scotland Yard fod dyn 20 oed wedi ei arestio yng Nghaerdydd mewn cysylltiad â'r ymosodiad terfysgol yn Parsons Green, Llundain.
Ef yw'r seithfed person i gael ei arestio fel rhan o ymchwiliad yr heddlu.
Cafodd y dyn 20 oed ei arestio dan amodau cymal 41 o'r Ddeddf Terfysgaeth tua 06:00 fore Llun yng Nghaerdydd ac mae'n cael ei holi gan yr heddlu yn Llundain.
Cafodd 30 o bobl eu hanafu wedi i ddyfais ffrwydro ar drên tanddaearol yng ngorsaf Parsons Green ar 15 Medi.
O'r saith gafodd eu harestio, cafodd tri eu harestio yng Nghasnewydd, mae un wedi ei ryddhau a'r ddau arall yn dal yn y ddalfa.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae gohebydd Newyddion 9, Aled Huw wedi trydar o'r safle yn ardal Pen-y-Waun fore Llun.
Dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd Lee Porter o Uned Gwrthderfysgaeth ac Eithafiaeth Cymru: "Mae holl heddluoedd Cymru yn sefyll gyda'n gilydd i gefnogi'r ymchwiliad yn Llundain mewn cysylltiad â Parsons Green.
"Mae'r ymchwiliad yna'n parhau ac ry'n ni'n parhau i annog y cyhoedd a chymunedau i gefnogi ein hymdrechion i gadw Cymru'n ddiogel drwy adrodd am unrhyw bryderon.
"Ni ddylai'r arestiadau diweddar achosi braw i'r cyhoedd, dim ond eu hatgoffa i gadw'n wyliadwrus."