Pwy sy'n cofio'r rhain?
- Cyhoeddwyd
Tafarnwr o'r Trallwng gafodd y syniad o gyfuno blasau artiffisial, braster cig moch a pherlysiau er mwyn creu math newydd o greision. Ond, roedd pigo enw addas yn dasg anoddach.
Dyna i chi ddechrau menter cresion Hedgehog, un o ymgyrchoedd marchnata mwyaf rhyfeddol yr 80au.
Nid yn unig roedd y creision wedi eu henwi ar ôl y creadur bach ond roedd Philip Lewis yn eu marchnata hefyd fel creision 'blas draenog'.
Roedd y fenter yn llwyddiant... am gyfnod. Daeth criwiau teledu, gan gynnwys y digrifwr Billy Connolly, i'r Vaults yn y Trallwng er mwyn darganfod rhagor am y cynnyrch anarferol.
Cyn bo hir roedd y pecynnau'n dechrau cael eu cynhyrchu ar raddfa fwy eang a'u gwerthu dros Gymru.
Dechrau'r diwedd....
Ond roedd yna anhawster cyfreithiol i weledigaeth Mr Lewis... y Ddeddf Disgrifiadau Masnachol (Trades Description Act 1968).
Roedd y Swyddfa Masnachu Teg o'r farn bod Hedgehog Crisps Ltd yn camarwain y cyhoedd yn eu hymgyrch hysbysebu. Wedi'r cwbl sut y gallwch chi gael cynnyrch 'blas draenog' heb bod 'na elfen o ddraenog go iawn ymhlith y cynhwysion?
Fe geisiodd y cwmni amddiffyn eu safbwynt trwy alw sipsiwn o'r canolbarth i dystio bod y creision yn blasu r'un fath â draenogod go iawn. Roedd yna sôn bod sipsiwn Cymru wedi bod yn bwyta draenogod ers cenedlaethau.
Roedd yna gyfaddawd. Bu'n rhaid i'r cwmni newid y ffordd roedden nhw yn hysbysebu'r creision - yn hytrach na dweud cresion 'blas draenog' roedd yn rhaid iddyn nhw eu disgrifio fel 'creision â blas draenog'.
Mae ychwanegu un lythyren yn gwneud gwahaniaeth mawr ym myd y gyfraith!
Aeth y cwmni yn eu blaenau i werthu rhagor o becynnau ac fe gafodd y creision eu cynhyrchu yn ddiweddarach gan gwmni Bensons oedd yn cynhyrchu creision ar raddfa fwy eang.
Ond erbyn diwedd y ddegawd roedd ffasiynau wedi newid a buan yr aeth Hedgehog Crisps i glwydo dros y gaeaf.
Yn wahanol i'r draenogod go iawn, wnaethon nhw ddim ail ymddangos yn y gwanwyn.