Pêl-droedwyr o Gaerfyrddin yn helpu eu capten i ddyweddïo
- Cyhoeddwyd
Mae capten tîm pêl-droed o Gaerfyrddin wedi dyweddïo ar ôl cael rhywfaint o help gan ei gyd-chwaraewyr.
Fe wnaeth CPD Carmarthen Stars esgus tynnu llun ar ôl y gêm, ond yna datgelu crysau-t oedd yn sillafu "will u marry me?".
Gofynnodd Thomas Harvey y cwestiwn ar ôl i'w fam sleifio'r fodrwy iddo, ac fe gafodd yr ateb yr oedd eisiau ei glywed gan ei gariad, Nia Wyn Thomas.
Dywedodd Mr Harvey, 26, sydd yn athro o Johnstown, ei fod eisiau dyweddïo cyn i Miss Thomas, 24, gael trawsblaniad y madruddyn oherwydd diffyg yn ei system imiwnedd.
Roedd wedi dweud wrth ei gyd-chwaraewyr am y cynllun nos Iau, ac roedden nhw wedi bod yn "wych" wrth ei gynorthwyo.
"Nes i roi llythyren i bob un ohonyn nhw a'i sgwennu ar eu garddynau cyn y gêm fel eu bod nhw'n gwybod lle i sefyll," meddai.
"Fy mam a fy llystad wnaeth drefnu'r crysau-t ac ar ddiwedd y gêm fe wnaethon ni esgus cymryd llun."
Digwyddodd y dyweddïad yn dilyn buddugoliaeth Carmarthen Stars o 5-4 yn erbyn Dreigiau Baglan.