Kirsty Williams: Oedi cyflwyno cwricwlwm newydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion ifanc fydd yn dechrau ar y cwricwlwm newydd yn gyntaf, a hynny yn 2022

Bydd newidiadau mawr i'r pynciau sy'n cael eu dysgu mewn ysgolion yng Nghymru yn cael eu cyflwyno flwyddyn yn hwyrach na'r disgwyl, yn ôl yr ysgrifennydd addysg.

Dywedodd Kirsty Williams ei fod yn gywir i gyflwyno'r cwricwlwm cenedlaethol newydd yn raddol yn hytrach nac ar unwaith.

Bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno i blant o'r dosbarth meithrin i Flwyddyn 7 yn 2022.

Mae Ms Williams hefyd wedi cyhoeddi manylion cynllun addysg genedlaethol newydd.

Cyflwyno'n raddol

Ddwy flynedd yn ôl fe wnaeth adolygiad annibynnol argymell cwricwlwm newydd fyddai'n rhoi mwy o hyblygrwydd i ysgolion ac yn rhoi'r un pwyslais ar sgiliau cyfrifiadurol ac sydd ar rifedd a llythrennedd.

Yn hytrach na dod i rym ar yr un pryd, bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno i ysgolion cynradd a phlant ym mlwyddyn gyntaf ysgol uwchradd.

Bydd y cwricwlwm yna yn cael ei gyflwyno wrth i'r plant symud drwy eu haddysg.

Amserlen cyflwyno'r cwricwlwm newydd yw:

  • 2022 - o'r meithrin i Flwyddyn 7

  • 2023 - Blwyddyn 8

  • 2024 - Blwyddyn 9

  • 2025 - Blwyddyn 10

  • 2026 - Blwyddyn 11

Roedd yr adroddiad gwreiddiol wedi argymell y dylai'r cwricwlwm newydd fod yn weithredol erbyn 2021, gyda'r deunydd dysgu ar gael i athrawon erbyn 2018.

Ond yn gynharach eleni fe wnaeth pwyllgor Cynulliad ddweud bod anawsterau yn y modd y mae'r cwricwlwm yn cael ei weithredu, tra bod undeb athrawon wedi galw am oedi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kirsty Williams hefyd wedi cyhoeddi cynllun addysg sy'n cynnwys lleihau dosbarthiadau a newid hyfforddiant athrawon

Dywedodd Ms Williams ei bod wedi trafod gydag athrawon, rhieni, arbenigwyr a'r undebau ac y byddai ysgolion yn cael mwy o amser i baratoi, gan weld y cwricwlwm newydd yn 2020.

"Bydd y cynllun yma a'r flwyddyn ychwanegol yn golygu bod gan bob ysgol amser i gymryd rhan yn natblygiad y cwricwlwm a pharatoi yn llawn ar gyfer y newidiadau," meddai.

Cadarnhau targed Pisa

Yn ogystal â'r newidiadau, bydd Ms Williams hefyd yn cyhoeddi cynllun addysg newydd.

Mae'n cynnwys:

  • Lleihau maint dosbarthiadau;

  • Trawsnewid hyfforddiant athrawon;

  • Cryfhau'r gefnogaeth i blant sydd ag anghenion ychwanegol;

  • Strwythur cenedlaethol i ddatblygiad gyrfaoedd athrawon;

  • Lleihau biwrocratiaeth;

  • Gwella safon adeiladau ysgolion.

Mae'r ddogfen hefyd yn cadarnhau targed y llywodraeth o sicrhau sgôr o 500 ym mhrofion rhyngwladol Pisa erbyn 2021.

Yn gynharach eleni dywedodd Ms Williams nad ei tharged hi oedd hwn, ond dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones nad oedd y targed wedi ei ddiddymu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Graham Donaldson yn arbenigwr ac yn ymgynghorydd addysg

Cafodd cyhoeddiad yr ysgrifennydd addysg ei groesawu gan yr undebau athrawon.

"Croesawn yr eglurder a roddir - am y tro cyntaf - ynghylch cyflwyno'r cwricwlwm newydd," meddai Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC.

"Mae'n amserlen sy'n caniatáu'r amser angenrheidiol i lunio a phrofi'r cwricwlwm yn ofalus, i ymgyfarwyddo a hyfforddi, ac i gynllunio'n bwyllog ar gyfer unrhyw newidiadau i gymwysterau a ddaw yn ei sgil."

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru'r Undeb Addysg Genedlaethol, David Evans: "Bydd y proffesiwn dysgu yn croesawu'r cyhoeddiad yma ac mae'n dangos fod yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwrando ar y pryderon sydd wedi eu codi ac yn gweithredu ar sail y dystiolaeth orau sydd ar gael iddi.

"Mae consensws gwirioneddol y tu ôl i'r cwricwlwm newydd. Mae'r sector yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ond mae'n rhaid sicrhau nad ydyn ni'n peryglu'r ewyllys da yna drwy ruthro i'w weithredu."