Myfyrwyr yn rhoi teyrnged i'r gyrrwr rasio Tom Pryce

  • Cyhoeddwyd
Formiwla 1Ffynhonnell y llun, Cyngor Tref Rhuthun
Disgrifiad o’r llun,

Maer Rhuthun, y Cynghorydd Jim Bryan, gyda rhai o aelodau tîm rasio myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a'u car "Gwyneth". Lee Treherne o Brifysgol Caerdydd ydy'r ail o'r chwith.

Mae tîm o beirianwyr ifanc o Brifysgol Caerdydd, a enillodd gystadleuaeth Fformiwla 1 gyda'u car cyflym, wedi teithio i Rhuthun i gyflwyno'r cerbyd o flaen cofeb i Tom Pryce.

Bu farw'r gyrrwr rasio F1 addawol o Ruthun 40 mlynedd yn ôl mewn damwain erchyll yn Ne Affrica.

Roedd yn 27 oed. Fe ydy'r unig Gymro hyd yma i ennill ras Fformiwla 1.

Fe benderfynodd y myfyrwyr enwi'r car ar ôl mam Tom Pryce, "Gwyneth".

Daeth aelodau tîm rasio myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i'r brig yng nghystadleuaeth flynyddol Formula Student yn Silverstone fis Gorffennaf - yr enillwyr cyntaf o'r DU yn yr 19 mlynedd ers i'r gystadleuaeth gael ei sefydlu.

Roedd tîm 'Rasio Caerdydd', sy'n cynnwys 56 o fyfyrwyr o Ysgol Peirianneg y Brifysgol, wedi curo cystadleuwyr o fwy na 100 o dimau prifysgolion eraill ledled y byd i ennill y gystadleuaeth

Ddydd Llun cafodd y car ei gludo i Rhuthun i'w arddangos o flaen cofeb sydd yn y dref i Tom Pryce.

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Tom Pryce ei ladd yn ystod râs yn Ne Affrica ar 5 Mawrth 1977

Dywedodd Lee Treherne, technegydd y tîm: "Roedd ymweld a chofeb Tom Pryce yn rwbeth oedden ni eisiau ei wneud, ro'n ni'n teimlo ei fod yn deyrnged deilwng ar ddiwedd blwyddyn o gofio amdano.

"Fel arfer rydyn ni'n tynnu'r ceir ma yn ddarnau ar ôl y gystadleuaeth, ond gan fod hwn yn gar a enillodd bencampwriaeth mor fawr, ry' ni am ymdrechu i'w gadw mewn un darn.

"Yr unig broblem ydy ble allwn ni ei storio!"