Cynllun i godi cwt ieir yn 'rhannu cymuned' Llangadog

  • Cyhoeddwyd
Safle
Disgrifiad o’r llun,

Gallai fferm Godre Garreg fod yn gartre' i filoedd o gywion ieir os yw'r cyngor yn cymeradwyo'r cynlluniau

Mae cynlluniau i godi cwt i 32,000 o gywion ieir mewn pentre' yn Sir Gâr wedi "rhannu'r gymuned", yn ôl rhai yn lleol.

Fe fyddai'r adeilad yn Llangadog yn gartref i'r cywion rhydd a byddai eu hwyau'n cael eu prosesu a'u pacio ar y safle.

Mae o leiaf 79 o bobl - ynghyd â'r cyngor cymuned lleol - yn gwrthwynebu'r cynlluniau, fydd yn mynd gerbron pwyllgor cynllunio ar 3 Hydref.

Argymhelliad swyddogion cynllunio Sir Gâr yw cymeradwyo'r cwt gydag amodau.

Agos at dai yn y pentre'

Bwriad fferm Godre Garreg yw adeiladu cwt gyda hyd o 140m ac uchder o 7m, yn ogystal â phedwar cynhwysydd bwyd gydag uchder o 7.7m.

Sail gwrthwynebiad Cyngor Cymuned Llangadog yw y byddai'n cael ei godi'n agos at dai.

Ynghyd â'r 79 sydd wedi mynegi eu gwrthwynebiad wrth y cyngor sir, mae 1,300 wedi arwyddo deiseb ar-lein i wrthwynebu. Mae 33 wedi ysgrifennu i ddatgan eu cefnogaeth i'r fenter.

Disgrifiad,

Dywedodd Colin Henry ei fod yn poeni am yr arogl o'r cwt

Dywedodd Colin Henry, sy'n byw yn y pentre', ei fod yn "colli cwsg" am y cynlluniau - yn enwedig am fod ei fab a'i bump o blant yn byw "tafliad carreg" o'r safle.

"Maen nhw i gyd dan naw oed, 'so 'ych chi mo'yn ffowls reit ger bwys nhw, 'ych chi? Mae e'n poeni lot arnon ni fel teulu," meddai.

Mae Mr Henry yn cydnabod bod y sefyllfa wedi "rhannu'r gymuned", ond dywedodd mai gwrthwynebu lleoliad y cwt mae e - yn hytrach na syniad y fferm o ehangu.

'Methu credu'

Argymhelliad swyddogion cyngor Sir Gâr yw cymeradwyo'r cynllun gyda 28 o amodau, a hynny'n dilyn ymweliad gan aelodau'r pwyllgor cynllunio cyn iddyn nhw wneud eu penderfyniad ar 3 Hydref.

Dywedodd y cyn-gynghorydd sir dros y pentre', Huw Morgan, ei fod "methu credu" bod swyddogion o blaid y cynllun er ei fod yn agos i dai.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Huw Morgan "methu credu" bod swyddogion yn argymell cymeradwyo'r cynllun

"Ga' i ddweud yn blwmp ac yn blaen, dwi ddim yn erbyn y cais i ddatblygu - mae ffermwyr yn gorfod gwneud e," meddai Mr Morgan, oedd hefyd yn arfer bod yn gadeirydd ar bwyllgor cynllunio'r sir.

"Beth ni yn ei erbyn yw'r lleoliad."

Cododd bryderon hefyd am y gwastraff o'r safle a'r problemau traffig allai hynny ei achosi.

"Mae 32,000 o ffowls - mae'n lot o garthffosiaeth i'w gario o 'ma mewn blwyddyn, a fydd rhaid iddo fe i gyd fynd o 'ma trwy'r pentre'," meddai.

Arallgyfeirio yn 'gyfle'

Ond mae arallgyfeirio a chadw ieir buarth - fel mae fferm Godre Garreg yn edrych i'w wneud - yn gyfle i amaethwyr sicrhau dyfodol eu fferm, yn ôl ymgynghorydd amaethyddol.

Dywedodd Wendy Jenkins o gwmni CARA fod wyau yn cynnig "incwm sy'n dod pob mis, yn wahanol falle i gig oen neu beef."

Disgrifiad,

Yn ôl yr ymgynghorydd Wendy Jenkins mae arallgyfeirio yn gallu bod yn "gyfle" i amaethwyr

Gofynnodd BBC Cymru am sylw gan TV Hughes & Co - sy'n gyfrifol am y cais - ond dywedodd asiant y fferm na fyddan nhw'n gwneud sylw "ar hyn o bryd".

Dywedodd Cyngor Sir Gâr nad ydyn nhw'n fodlon gwneud sylw am gais cynllunio sydd eto i fynd gerbron y pwyllgor cynllunio.

Bydd y pwyllgor hwnnw'n ymweld â'r safle yn Llangadog ar 3 Hydref cyn iddyn nhw bleidleisio ar y cynlluniau.