Dewis llwybr ffordd newydd ar Lannau Dyfrdwy
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pa lwybr maen nhw'n ei ffafrio ar gyfer ffordd newydd gwerth £250m ar Lannau Dyfrdwy.
Bwriad y cynllun yw moderneiddio a lleddfu problemau traffig yn yr ardal rhwng yr A55, yr A494 a'r A548.
Roedd ymgynghoriad ar ddau gynllun gwahanol, a dewisodd y llywodraeth y llwybr coch.
Mae hynny'n golygu adeiladu ffordd newydd i gysylltu'r A55 gyda'r A548, gyda'r ffordd honno'n cael ei huwchraddio.
Fe fydd 'na hefyd gyfnewidfa newydd gyda'r A55 yn Llaneurgain.
Dyma oedd y llwybr oedd yn cael ei ffafrio hefyd gan Gyngor Sir y Fflint.
Dechrau'n fuan?
Wrth gyhoeddi'r penderfyniad, dywedodd yr ysgrifennydd economi ei fod yn "hyderus" bydd y cynllun yn "ateb y trafferthion presennol ac ategu gwelliannau eraill yn ardal Glannau Dyfrdwy".
"Y camau nesaf fydd datblygu cynllun cychwynnol sy'n ystyried materion peirianyddol ac amgylcheddol yn fwy manwl, a cheisio ateb rhai pethau a godwyd yn yr ymgynghoriad," meddai Ken Skates AC.
"Rwy'n gobeithio y gall hyn gael ei gyflawni'n gyflym, gyda busnesau a chymudwyr yn teimlo buddion y cynllun mor fuan ag sy'n bosib, gan gryfhau'r cysylltiadau cymdeithasol ac economaidd rhwng Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, Caer a thu hwnt, yn y broses."
Daeth croeso i'r llwybr hefyd gan yr AC lleol, Carl Sargeant.
"Mae'r tagfeydd ar yr A494 wedi bod yn broblem ers tro ac mae pawb yn awyddus i weld gwaith yn dechrau er mwyn datrys hynny," meddai.
"Byddai'r llwybr glas wedi cynyddu llygredd aer mewn mannau sydd eisoes yn brysur. Byddai wedi troi ffyrdd bach yn ffyrdd mawr, ac roedd pryderon am gynyddu traffig ger Ysgol Gynradd Gymunedol Ewlo."
Fe fydd gorsafoedd newydd ar y rheilffyrdd hefyd yn rhan o'r cynllun gyda dwy orsaf yn lle'r un bresennol yn Shotton ac un ychwanegol dan yr enw Parkway Glannau Dyfrdwy.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2016