Teyrngedau i'r baledwr Harry Richards, fu farw yn 82 oed

  • Cyhoeddwyd
Harri RichardsFfynhonnell y llun, Noson Lawen/YouTube
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Harry Richards yn faledwr profiadol ac fe gafodd lwyddiant mewn nifer o eisteddfodau ar hyd ei oes

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r baledwr Harry Richards, fu farw'n 82 oed.

Roedd y brodor o Sarn Mellteyrn, Pen Llŷn, yn eisteddfodwr profiadol ac yn adnabyddus am gydweithio gyda'r llenor Gruffydd Parry.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ei fod wedi "dod â baledi'n fyw i genhedlaeth newydd".

"I ganu baledi rhaid gallu gwneud cyswllt uniongyrchol efo cynulleidfa," meddai Dr Rhiannon Ifans.

"Dawn fawr Harry Richards oedd dal cynulleidfa yng nghledr ei law."

Ychwanegodd Dr Ifans bod Harry Richards yn "un o'r rhai cynharaf i roi'r faled ar y map i'n cenhedlaeth ni" a'i fod "wedi pontio'r hen arddull o ganu" i'w chyflwyno i gynulleidfa newydd.

Yn un o wyth o blant, roedd yn frawd i'r awdur adnabyddus, y Parchedig Emlyn Richards.

Dywedodd y Parchedig Richards bod "canu yn anadl einioes" i'w frawd.

Bu farw Harry Richards yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, dydd Sul yn dilyn salwch. Mae'n gadael gwraig, Lowri a phump o blant.