Nid yw hon ar fap
- Cyhoeddwyd
Mae 'na lawer o sôn am warchod enwau lleoedd a sicrhau nad ydi enwau Cymraeg yn cael eu colli ond beth am enwau sydd heb eu cofnodi'n swyddogol yn unman?
Mae'r mapiwr Dafydd Elfryn wedi creu map rhyngweithiol i gasglu enwau lleol, dolen allanol sydd ddim ar fapiau swyddogol ond sy'n cael eu defnyddio ar lafar.
"Mae gan bob cenhedlaeth ei enwau eu hunain am eu hardal leol, boed yn ddarn o dir, coedwig, afon neu adeilad," meddai.
"Mae'r enwau yna yn rhan o hanes ardal, a dwi'n meddwl bod hi'n bwysig trio cadw cofnod ohonynt cyn iddyn nhw ddiflannu.
"Mae'r map yma yn un ffordd o wneud hyn."
Er bod 'na restrau swyddogol gan Ordnance Survey a phrosiectau eraill ar y gweill i hel enwau hanesyddol roedd Dafydd eisiau hel enwau anffurfiol sy'n cael eu rhoi ar gaeau, neu graig neu ran o afon.
Daeth y syniad o siarad efo ffrindiau am yr enwau sy'n cael eu colli wrth i'r genhedlaeth hŷn ddiflannu, meddai.
"Y syniad ydy trio dal enwau sy'n mynd a dod ar lafar - dwi'n trio dal bratiaith ddaearyddol ardal mewn ffordd," meddai Dafydd sy'n gweithio ar ddatblygu meddalwedd mapiau i Gyngor Gwynedd wrth ei waith bob dydd.
"Efallai mai dim ond criw bach o bobl sy'n iwsio'r enw - mae'n hwyl cael clywed rhai ohonyn nhw, maen nhw o ddiddordeb i bobl ac maen nhw'n rhan o hanes ardal."
Bwlch Glas ac Ynys Gachu
Mae rhai o enwau ei bentref genedigol yn Nhrefor wedi ysbrydoli Dafydd hefyd.
"Mae gynnon ni Bwlch Glas yn Trefor, sydd ddim ar fap, sef traeth bach dan y clogwyn ac mae gynnon ni'r breakwater - Brêc mae pobl wedi alw fo erioed.
"Mae 'na Brêc Bach yna ac Ynys Gachu yefyd - sef ynys lle mae adar yn nythu sydd â baw drosti!
"Pan oeddan ni'n fach roedd 'na Gae Bach, lle roeddan ni i gyd yn chwarae - maes parcio sydd yno rŵan. Ond ro'n i'n siarad efo mam ac roedd ganddi hi gae bach hefyd, ond mewn lle gwahanol - cae ysgol Trefor oedd eu cae bach nhw.
"Felly mae'n rhyfedd fel mae gan bob cenhedlaeth enwau - mae'n siŵr fod gan bob pentref yng Nghymru gae bach lle roedd y plant yn chwarae.
"Mae pobl wedi rhoi petha' lawr ar y map yn barod - mae rhywun wedi rhoi lle yn Aberdaron lle roeddan nhw'n arfer crogi pobl."
Mae Dafydd yn gobeithio bod y map yn hawdd i bobl ei ddefnyddio ac y gall pobl lawrlwytho'r data i'w ddefnyddio fel maen nhw eisiau.
Mae Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, dolen allanol hefyd yn cynnal gweithdai i gofnodi enwau ac yn gweithio ar brosiect tebyg.
2,000 o fân enwau
Yn Aberteifi mae map arbennig gan Idris a Beryl Mathias sy'n cynnwys 2,000 o enwau lleol ar hyd afon Teifi yn cael ei dangos yr wythnos hon yng Ngŵyl y Cynhaeaf.
Mae Idris a Beryl wedi cofnodi miloedd o fân enwau sydd ynghlwm â'r afon a'i glannau ar fap amryliw fydd yn cael ei arddangos yn y Gyfnewidfa Ŷd yn ystod wythnos yr ŵyl.