Profiad 'anhygoel' mynd â'r iaith Gymraeg i lwyfan Gŵyl Caeredin

Ailsa Dixon (chwith) a Ffion Phillips (dde)Ffynhonnell y llun, Fatemeh Tajdin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion Phillips (dde) ac Ailsa Dixon (chwith) yn ymgorffori cerddoriaeth Geltaidd a Gaeleg yn eu perfformiadau

  • Cyhoeddwyd

Mae perfformiwr o Gonwy wedi mynd â'r iaith Gymraeg i lwyfan Ŵyl Ymylol Caeredin - neu'r Fringe - gyda'i sioe sy'n plethu cerddoriaeth a chwedlau Celtaidd.

Dywedodd Ffion Phillips, sy'n rhan o'r Harebell Tellers, ei bod yn angerddol am adrodd straeon sy'n seiliedig ar leoedd ac sy'n dod â iaith y tir i'r gwylwyr.

"Mae'n anhygoel i allu mynd â iaith sy'n llawn bywyd i leoliadau ble dydi o ddim yn cael ei glywed fel arfer," meddai.

Mae Creu Cymru, sy'n hyrwyddo celfyddydau perfformio yng Nghymru, yn dweud bod sioeau Cymraeg a rhai dwyieithog yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd byd-eang rannu yng "nghyfoeth ein treftadaeth".

Bob blwyddyn mae perfformwyr Cymraeg yn dod i brifddinas yr Alban ac yn ymuno â mwy na 3,500 o sioeau gan berfformwyr ledled y byd yn amrywio o gomedi i gabaret, i berfformwyr stryd a'r gair llafar.

Mae'r Harebell Tellers yn perfformio straeon llên gwerin a mytholegol trwy gelfyddyd draddodiadol o adrodd straeon.

Mae Ffion Phillips ac Ailsa Dixon, sy'n dod o'r Alban, yn plethu ieithoedd Cymru a'r Alban i'w sioeau.

Dywedodd Ffion fod yna bobl yn y Fringe - yr ŵyl gelfyddydol fwyaf yn y byd - sydd erioed wedi clywed yr iaith Gymraeg o'r blaen.

"Dwi'n caru plethu straeon mewn ffordd fel bo siaradwyr Saesneg yn y gynulleidfa gobeithio'n gallu dilyn be dwi'n ei ddweud - mae'n dwyn nhw i mewn i fyd y stori.

"Ac i'r siaradwyr Cymraeg yn y gynulleidfa mae 'na gysylltiad hyfryd yn digwydd."

'Caru adrodd straeon yn ddwyieithog'

Mae'r fyfyrwraig 20 oed wedi bod yn adrodd straeon ers ei bod hi'n wyth oed a dechreuodd droi at yr iaith Gymraeg yn fuan wedi hynny.

"Llên gwerin a chwedloniaeth Gymreig sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o fy repertoire," meddai.

"Fel siaradwr Cymraeg yn fy mywyd dydd-i-ddydd, dwi wastad yn caru adrodd straeon yn ddwyieithog."

Mae sioe Ffion ac Ailsa, Aderyn/Bird, yn archwilio mytholeg adar, breuddwydion a thynged.

Emily DavisFfynhonnell y llun, Richard McKenzie
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emily David yn adrodd am symud o orllewin Cymru i Lundain ac yna dianc o fywyd corfforaethol

Mae Emily Davis o Gasnewydd yn perfformio dwy sioe yn yr Ŵyl - Blodwen's in Town ac Escape the Rat Race.

Mae Emily yn adrodd ei stori trwy ganu am symud o orllewin Cymru i Lundain ac yna dianc o fywyd corfforaethol, a hynny i gyd drwy lygaid ei phersona, Blodwen.

"Mae'n ymwneud â'r sioc ddiwylliannol sy'n digwydd i chi pan fyddwch chi'n dod o bentref bach yng ngorllewin Cymru a sut rydych chi'n canfod eich hun yn llywio byd newydd, gan adael system gymorth ar ôl a dod o hyd i un newydd," meddai.

Stuart ThomasFfynhonnell y llun, Jimmy Hill Photography
Disgrifiad o’r llun,

"Weithiau mae pobl yn clywed fy acen a dydyn nhw ddim yn disgwyl llawer gen i," meddai'r digrifwr Stuart Thomas

Hefyd yn perfformio yn yr ŵyl mae'r digrifwr Stuart Thomas, sy'n wreiddiol o Bort Talbot.

"Dwi'n siarad dipyn am fod yn Gymro, ac am fod yn dew hefyd, a dyna pam enw'r sioe yw 'Bad Fatty'. Mae'r cyfan yn ymwneud â newid stereoteipiau.

"Weithiau mae pobl yn clywed fy acen a dydyn nhw ddim yn disgwyl llawer gen i, ond gallwch chi ddefnyddio hynny mewn comedi a chwarae gydag e.

"Mae'n beth hwyl i'w wneud i newid canfyddiadau."

Mae Gŵyl Ymylol Caeredin yn rhedeg o 1-25 Awst.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.