Dwyn trysorau hanesyddol yn anghyfreithlon yn 'cael effaith ar dreftadaeth'

Swyddogion yn archwilio safle yn y tywyllwch
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi bod yn derbyn adroddiadau o bobl yn cloddio mewn caeau yn y tywyllwch

  • Cyhoeddwyd

Mae arbenigwyr yn ofni y gallai pobl sy'n chwilio am drysorau yn anghyfreithlon yn y nos fod yn peryglu rhai o safleoedd mwyaf hanesyddol Cymru.

Mae gweddillion Rhufeinig, bryngaerau a hyd yn oed mynwentydd wedi cael eu targedu gan bobl sy'n cyrraedd safleoedd yn y tywyllwch i gloddio am drysorau.

Yn aml yr hyn sy'n weddill yw twll yn y ddaear lle mae rhywbeth wedi cael ei ddatgladdu a does gan ymchwilwyr fawr o syniad beth oedd yno, na beth oedd ei werth.

Mae'n drosedd sy'n cael ei hadnabod yn y gymuned archeolegol fel 'nighthawking' - gyda phobl yn defnyddio'r tywyllwch i gael mynediad anghyfreithlon i safleoedd yn y gobaith o ddod o hyd i drysor.

PC Dan Counsell o Heddlu Gwent mewn mynwent lle cafodd degau o dyllau wedi eu cloddio eu darganfod
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dros 50 o dyllau eu darganfod mewn un fynwent

Cafodd y Cwnstabl Dan Counsell o Heddlu Gwent alwad ym mis Medi 2019, ar ôl i drigolion pentref hynafol ger Casgwent ddarganfod dros 50 o dyllau wedi eu cloddio ymysg y beddau ym mynwent yr eglwys yno.

Doedd gan y lladron ddim diddordeb yn y beddau, ond yn hytrach yr hen greiriau allai fod wedi eu claddu yno - yn ddyfnach o dan y ddaear.

Cyn iddo ddod yn safle ar gyfer eglwys Gristnogol tua 700 mlynedd yn ôl, roedd Rhufeiniaid yno.

Yng nghanol y tyllau roedd darnau bach o fetel - arwydd bod pobl sy'n chwilio am drysorau yn anghyfreithlon wedi bod yno.

'Wedi mynd am byth'

Mae rhai o'r helwyr trysorau yn chwilio er mwyn adeiladu eu casgliad personol.

Y gred ydi bod eraill yn smyglo eitemau dramor yn y gobaith o'u gwerthu am y pris uchaf.

Tydi hi ddim yn anarferol i eitemau anghyfreithlon ymddangos ar safleoedd arwerthu o dro i dro.

Mae archeolegwyr a'r heddlu yn nodi mai nifer fechan o bobl sy'n gweithredu fel hyn.

Ond mae'r arferion anghyfreithlon yn cael eu gweld fel bygythiad gwirioneddol i dreftadaeth y wlad.

Cerrig hynafol ym mryngaerau De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae cerrig hynafol mewn bryngaerau yn ne Cymru wedi cael eu targedu gan ladron trysorau

Ar ôl achos cyntaf y Cwnstabl Counsell yn y fynwent, fe ddechreuodd gadw golwg am achosion eraill.

O fewn dwy flynedd, roedd y tîm wedi dod o hyd i 23 o achosion posib yn ardal Heddlu Gwent, sy'n llawn o weddillion Rhufeinig, caerau hanesyddol a chestyll.

"Fe gawson ni adroddiadau o bobl yn sefyll mewn caeau yn ystod y nos. Adroddiadau o bobl yn darganfod tyllau. Arwyddion o darfu ar bridd," meddai'r Cwnstabl Counsell.

Dywedodd mai'r hyn oedd fwyaf pryderus am yr achosion oedd bod y "rhan fwyaf" wedi targedu mannau sy'n cael eu disgrifio fel safloedd archeolegol o'r pwysigrwydd cenedlaethol mwyaf.

Mae Cadw, dolen allanol, y corff sy'n gyfrifol am warchod dros 4,000 o safleoedd hanesyddol yng Nghymru, yn dweud eu bod yn gweld 10 i 12 o achosion bob blwyddyn, ond yn nodi bod natur yr achosion yn golygu ei bod hi'n debygol bod yna fwy na'r rhai sy'n cael eu cofnodi.

Mae cofnodi achosion yn aml yn ddibynnol ar aelod o'r cyhoedd yn sylwi ar dwll anarferol yn y ddaear, a'i adrodd i'r heddlu yn hytrach na'i ddiystyru fel twll sydd wedi ei greu gan gwningen neu fochyn daear.

'Trachwant a throseddu wedi ei drefnu'

Dywedodd Dr Jonathan Berry, sy'n Uwch-Arolygydd Henebion ac Archeoleg gyda Cadw, bod yna weithiau esboniad diniwed, gyda phobl o bosib ddim yn deall y rheolau - ond mae eraill, meddai, yn cael eu cymell gan "drachwant", gydag elfen o droseddu wedi ei drefnu mewn rhai achosion.

"Yn aml, mae'r eitemau yn cael eu gwerthu mewn ocsiynau arlein, canolfannau gwerthu hen bethau ayyb."

"Gall hefyd fod yn rwydweithiau preifat, cyfryngau cymdeithasol.

"Gall eitemau prin a gwerthfawr fod allan o'r wlad ac mewn casgliad arall o fewn dim," meddai.

Delwedd o fynwent liw nos o gamera synhwyro gwres a dron
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu Gwent wedi bod yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddara i geisio dod o hyd i'r rhai sy'n cloddio safleoedd yn y nos

Yn ôl y Cwnstabl Counsell, mae natur anghysbell y safleoedd yn denu troseddwyr, gan eu bod yn eu gweld fel llefydd saff rhag cael eu dal.

Er mwyn ceisio ymateb i hynny, mae Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gwent wedi bod yn defnyddio camerâu synhwyro gwres wedi eu cysylltu â dronau a sbienddrych - maen nhw'n gallu ddod o hyd i ladron trysor posib ar ochr mynyddoedd yn y tywyllwch.

"Rydyn ni'n edrych ar ardal o 600 milltir sgwâr, mae'n drosedd anodd iawn i'w darganfod," meddai.

"Ond ar chwech i wyth achlysur rydyn ni wedi darganfod pobl yn chwilio yn anghyfreithlon."

Does yr un o'r rhai sydd wedi eu dal hyd yma wedi bod ar safleoedd hynafol sydd wedi eu gwarchod yn gyfreithiol, ond mae Heddlu Gwent yn gobeithio y bydd archwiliadau cyson yn ystod y nos a'r dechnoleg newydd yn eu helpu ymhellach.

"Y tristwch ydy bod y rhain wedi eu dynodi yn safleoedd hanesyddol am reswm - maen nhw'n cael eu cydnabod yn safleoedd o bwysigrwydd hanesyddol cenedlaethol," meddai'r Cwnstabl Counsell.

"Os ydy rhywbeth yn cael eu symud nad ydyn ni'n ymwybodol ohono, gall fod yn bwysig iawn.

"Unwaith mae eitem wedi mynd, mae wedi mynd am byth.

"Mae'n cael effaith fawr ar dreftadaeth genedlaethol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig