Agor y fferm wynt fwyaf ar dir Cymru yn y cymoedd
- Cyhoeddwyd
Bydd y fferm wynt fwyaf ar dir Cymru yn cael ei hagor yn swyddogol ddydd Iau.
Gall safle Pen y Cymoedd, sydd wedi ei leoli yng Nghastell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf, gynhyrchu 228 megawat o bŵer - digon i gyflenwi trydan i 15% o gartrefi Cymru.
Mae hynny gyfystyr â darparu trydan i bob cartref yng Nghaerdydd a Blaenau Gwent am flwyddyn gyfan.
Cwmni Vattenfall o Sweden sy'n berchen ar y safle, a gyda chost o £400m fe gymerodd hi dair blynedd a hanner i godi'r 76 tyrbin.
Mae'r cwmni'n dweud bod £220m o'r arian yma wedi ei fuddsoddi yn yr economi yng Nghymru, gyda dros 1,000 o weithwyr lleol yn cael eu cyflogi gan brosiect Pen y Cymoedd yn ystod y gwaith adeiladu.
Gosod targed 70%
Nawr bydd 23 o staff yn cael eu cyflogi ar y safle am o leiaf 20 mlynedd.
Bydd Magnus Hall, llywydd a phrif weithredwr Vattenfall yn cyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn ddiweddarach.
Mae'r agoriad swyddogol yn dilyn cyhoeddiad Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, yr wythnos hon ei bod hi'n gosod targed o gynhyrchu 70% o ynni Cymru drwy ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030.
Mae'n cydnabod bod hynny'n her o feddwl mai'r ffigwr yw 32% ar hyn o bryd.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi'r gorau i gefnogi gwynt ar y tir ers etholiad 2015, ac yn gwneud hi'n haws i awdurdodau cynllunio lleol wrthod cynlluniau fferm gwynt ar y tir yn Lloegr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2013