Gwaith adeiladu fferm wynt i ddechrau flwyddyn nesaf
- Cyhoeddwyd
Bydd y gwaith adeiladu ar fferm wynt fwyaf Cymru a Lloegr yn dechrau flwyddyn nesaf.
Daeth cadarnhad gan y datblygwyr Vattenfall y byddai'r gwaith o adeiladu 76 o dyrbinau ar safle Pen y Cymoedd ger y Rhondda yn dechrau yn 2014.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni Ed Davey y byddai'r cynllun yn hwb i'r economi a'r amgylchedd:
"Bydd yn denu biliynau o bunnau mewn buddsoddiad i Brydain ac yn cefnogi swyddi tra'n cyflenwi cartrefi gydag ynni lân."
Gwaith cychwynol
Mae'r gwaith cychwynol eisoes wedi dechrau ar y safle, lle bydd y melinau gwynt 145 metr o uchder yn gallu creu dros 200 megawat o ynni, neu digon i gyflenwi 140,000 o gartrefi.
Mae rhai cwmniau o Gymru wedi dechrau ar y gwaith o dorri coed a chlirio tir coedwigaeth yn barod i adeiladu.
Dywedodd Charles Jukes, o gwmni Spencer Environmental Care Associates, bod cynllun Pen y Cymoedd wedi bod yn "hollbwysig i sicrhau swyddi ac adeiladu ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd cwmni Vattenfall hefyd y byddan nhw'n buddsoddi £1.8m yn y gymuned pob blwyddyn bydd y fferm wynt yn weithredol, sef 25 mlynedd.
Ond mae gwrthwynebwyr yn credu byddai cymeradwyo'r cynllun yn cael effaith ar yr amgylchedd ac yn effeithio ar dirwedd yr ardal.
Bydd y fferm wynt yn cael ei godi ar dir Llywodraeth Cymru ond, oherwydd ei faint, cafodd y cynllun ei ganiatáu gan Lywodraeth Prydain.
Ymchwiliad Cyhoeddus
Mae cwmni Vattenfall yn un o bum datblygwr sy'n rhan o ymchwiliad cyhoeddus i adeiladu nifer o ffermydd gwynt mawrion yn y canolbarth - mae hynny'n rhan o gynllun gwahanol.
Mae'r cwmnïau eisiau caniatâd i godi 160 o dyrbinau newydd, fyddai â'r potensial i gynhyrchu dros 500 megawat o ynni.
Ond mae grwpiau protest a chadwraeth ymhlith 21 o sefydliadau sy'n gwrthwynebu'r ffermydd gwynt, yn ogystal â chynlluniau'r Grid Cenedlaethol i godi is-orsaf newydd a chyfres o beilonau rhwng y canolbarth a Lloegr.
Gwrthod Peilonau Sir Gâr
Yn y cyfamser, mae Cyngor Sir Gâr wedi gwrthod cynllun i gysylltu fferm wynt y Brechfa gyda'r grid cenedlaethol drwy 20 milltir o wifrau ar beilonau.
Roedd Plaid Cymru wedi galw am i'r gwifrau gael eu claddu o dan y ddaear, ac mae'r cyngor wedi cytuno'n unfrydol.
Dywedodd y datblygwyr bod claddu'r ceblau yn rhy gostus ond, yn ôl y cynghorydd Cefin Campbell, roedd rhaid ystyried effaith y peilonau ar "dwristiaeth, gwerth eiddo a bywyd gwyllt yn Nyffryn Tywi, sydd yn ardal o bwysigrwydd hanesyddol eithriadol a harddwch naturiol."
Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Lywodraeth Prydain.
Fe wnaeth aelodau o bob plaid gefnogi'r cynnig, ond dywedodd y cynghorydd Alun Lenny bod "diffyg democratiaeth" yn y broses, gan mai gweinidog Llywodraeth Prydain fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
"Nid oes gan yr Awdurdod Cynllunio lleol na Llywodraeth Cymru unrhyw reolaeth dros y cynllun hwn - sy'n dangos yn glir y diffyg democratiaeth sy'n bodoli yng Nghymru o ran ynni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd27 Mai 2013