'Siom' am swydd ddisgrifiad prif weithredwr CBAC
- Cyhoeddwyd
![CBAC](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/4EE2/production/_98049102_cbac.jpg)
Mae'r swydd yn cynnig cyflog o hyd at £120,000, a bydd gan y prif weithredwr newydd reolaeth dros 400 o staff
Mae un o undebau'r athrawon wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod "wedi eu synnu ac yn siomedig" nad ydy'r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer swydd prif weithredwr nesa'r corff arholi CBAC.
Mae'r swydd-ddisgrifiad yn dweud bod y Gymraeg yn "ddymunol" ac yn ychwanegu y bydd cyfleoedd ar gael i ddatblygu'r sgiliau hynny.
Ond yn ôl Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, UCAC, fe ddylai'r Gymraeg fod yn hanfodol ar gyfer y swydd.
"Mae CBAC yn cyfathrebu'n ddyddiol efo ysgolion yng Nghymru yn y sector cyfrwng Cymraeg, ac mae'n hynod bwysig fod y prif weithredwr yn meddu ar y sgiliau hyn," meddai Elaine Edwards, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, wrth siarad â rhaglen Newyddion 9 BBC Cymru.
"'Dan ni'n synnu ac yn siomedig. Mae CBAC yn un o'r mudiadau pwysica' ym myd addysg yng Nghymru.
Gosod y dôn o fewn CBAC
"Mae angen i'r prif weithredwr allu cyfathrebu trwng gyfrwng y Gymraeg fel bod na gyfathrebu rhugl a hyderus efo athrawon, rhieni, disgyblion ac eraill," ychwanegodd Elaine Edwards.
"Hefyd mae angen dealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu'r sector cyfrwng Cymraeg wrth ddarparu cymwysterau academaidd ar gyfer cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg, a hefyd gosod y dôn o fewn CBAC ar gyfer edrych ymlaen i'r dyfodol a chyfathrebu o fewn y sefydliad."
Elaine Edwards ydy Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC
Mae cyn-gyfarwyddwr arholiadau ac asesu CBAC, Derec Stockley, yn dweud y byddai e a'r prif weithredwr presennol, Gareth Pierce, yn aml iawn "yn cyfarfod â phenaethiaid ysgolion cyfrwng Cymraeg a chynrychiolwyr undebau fyddai'n defnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd gyda ni".
Ychwanegodd: "Mae'n hanfodol, dwi'n credu, bod prif weithredwr corff mor bwysig yng Nghymru yn hyddysg yn y Gymraeg."
![Gareth Pierce](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/12A6A/production/_98049367__76936146_wjec_garethpierce.jpg)
Bydd y prif weithredwr presennol, Gareth Pierce, yn rhoi'r gorau i'r swydd y flwyddyn nesa ar ôl dros 10 mlynedd o wasanaeth
Mewn datganiad, fe ddywedodd bwrdd CBAC eu bod "yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.
"Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae pob hysbyseb swydd yn ddwyieithog ac rydym yn derbyn ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg.
"Mae swydd ddisgrifiad y prif weithredwr yn dweud fod y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol, ac y bydd cyfleoedd ar gael i gaffael/datblygu'r sgiliau hynny.
"Bydd angen i ddeiliad y swydd ennill dealltwriaeth gadarn o ofynion y sector cyfrwng Cymraeg wrth ddechrau yn y gwaith os nad oes ganddo ef/hi y ddealltwriaeth honno eisoes."
Mae 'na addewid hefyd na fydd ceisiadau am swydd y prif weithredwr yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r Saesneg.