Alun Cairns: Cwmnïau 'i elwa' o roi cyflog teg i ferched
- Cyhoeddwyd
Bydd cwmnïau o Gymru yn elwa os ydyn nhw'n rhoi cyflog teg i ferched, yn ôl ysgrifennydd Cymru.
Mewn digwyddiad yng Nghaerdydd, dywedodd Alun Cairns fod yr economi'n "ddibynnol ar ddefnyddio doniau merched, gan fanteisio ar y cyfoeth o sgiliau maen nhw yn ei gynnig i'n gweithleoedd".
O fis Ebrill ymlaen, bydd yn rhaid i holl gwmnïau'r DU sydd â mwy na 250 o weithwyr gyhoeddi beth yw'r gwahaniaeth rhwng cyflogau'r merched a'r dynion sy'n gweithio iddyn nhw.
Awgrym ymchwil yr wythnos hon yw bod cyflog cyfartalog merched 20% yn is na dynion.
Mae'r bwlch cyflog ar gyfer swyddi rheolwyr hyd yn oed yn fwy, yn ôl dadansoddiad gan y Sefydliad Rheoli Siartredig a XpertHR.
'Gwell perfformiad' tymor hir
Dywedodd Mr Cairns ei fod yn annog busnesau yng Nghymru i fod yn "flaengar ac yn dryloyw" wrth iddyn nhw weithredu deddfwriaeth bwlch cyflogau Llywodraeth y DU.
"Mae profiad yn dangos bod y cwmnïau hynny sydd wedi cyhoeddi'r data, y cwmnïau hynny sydd wedi cymryd camau cadarnhaol i gau'r bwlch, nid yn unig yn gwasanaethu eu staff yn well, ond mae perfformiad y cwmni hefyd yn llawer gwell yn y tymor hir," meddai wrth BBC Cymru.
"Nid yr unigolion yn unig fydd yn elwa - fe fydd y busnes yn elwa ac fe fydd yr economi yn elwa.
"Mae hon yn sefyllfa lle mae pawb yn ennill."