Dathlu 450 mlynedd ers cyfieithiad cyntaf rhan o'r Beibl
- Cyhoeddwyd

Ysgrifennwyd cyfieithiad o'r Beibl gan Wiliam Morgan yn 1588, ar ôl cyfieithiad William Salesbury (uchod) yn 1567
Mae Cymdeithas y Beibl yn dathlu 450 mlynedd ers cyfieithiad Cymraeg cyntaf y Testament Newydd drwy fis Hydref.
Ar 29 Medi, bydd y gymdeithas yn lansio arddangosfa yng nghanolfan Byd Mary Jones yn Y Bala.
Bydd copi gwreiddiol o Destament Newydd William Salesbury, ar fenthyg o Gymdeithas y Beibl yng Nghaergrawnt, yn cael ei arddangos.
Bydd gwasanaeth a darlith yn Llansannan, man geni William Salesbury, hefyd yn cael eu cynnal yn ystod wythnos gyntaf Hydref.
'Cymwynas â'r iaith'
Argraffwyd cyfieithiad cyntaf y Testament Newydd yn y Gymraeg ar 7 Hydref 1567, ac yn aml mae'r cyfieithiad yma'n cael ei gydnabod fel rhan allweddol o adfywiad yr iaith Gymraeg a'i diwylliant.
Dywedodd Cymdeithas y Beibl y bydd yr arddangosfa "yn dangos effaith a phwysigrwydd y Beibl Cymraeg i Gymru ac i'r iaith Gymraeg", yn ogystal ag i ieithoedd eraill.

Mae cyfieithu'r Beibl yn parhau i fod yn dasg sydd angen ei gwneud heddiw, meddai Christine Daniel
"Rydyn ni eisiau dathlu'r hanes, ond hefyd pwysleisio pwysigrwydd cyfieithu'r Beibl heddiw," meddai Christine Daniel o Gymdeithas y Beibl.
"Mae dros 6,000 o ieithoedd yn y byd sydd heb gyfieithiad o'r Beibl."
Ychwanegodd y Parchedig Ddr Goronwy Prys Owen fod gwaith William Salesbury wedi "paratoi'r ffordd" ar gyfer cyfieithiad llawn William Morgan o'r Beibl yn 1588.
"Y gymwynas wnaeth o oedd codi'r Gymraeg i lefel iaith ddysg ar gyfandir Ewrop," esboniodd y Parchedig Owen.

Fe wnaeth Beibl William Salesbury "safoni'r" iaith Gymraeg, yn ôl y Parchedig Owen
"Yr ail beth wnaeth o oedd cyfuno tafodieithoedd Cymru'n un iaith lenyddol, gyda'i gwreiddiau yng ngweithiau'r beirdd, ac arbed y Gymraeg rhag ymrannu'n wahanol dafodieithoedd annibynnol, fel gwnaeth rhai o'r ieithoedd Celtaidd eraill."
Ychwanegodd fod magwraeth William Salesbury wedi magu "cariad tuag at y Gymraeg, ei phobl a'r Efengyl" a'i fod wedi sylwi mai drwy gyfieithu'r ysgrythur y byddai trwch y boblogaeth yn dod i ddeall y Beibl.