Dau yn pledio'n ddieuog i achosi marwolaeth ras feicio
- Cyhoeddwyd
Mae dau gyn swyddog gyda British Cycling wedi pledio'n ddieuog i nifer o gyhuddiadau yn ymwneud â marwolaeth dynes 29 oed yn ystod ras beicio mynydd yn Llangollen.
Cafodd Judith Garrett o Northumberland ei lladd wrth wylio'r ras yn Awst 2014 wedi i feic oedd yn cael ei ddisgrifio fel 'allan o reolaeth' ei tharo.
Fe gafodd ei chludo i ysbyty yn Stoke-on-Trent ond bu farw yno yn ddiweddarach.
Fe wnaeth Michael Marsden, 40 oed o Gaerhirfryn, bledio'n ddieuog i bedwar cyhuddiad o fethu â sicrhau iechyd a diogelwch gwylwyr, methu â darparu hyfforddiant i weithwyr ac o beidio adrodd am y ddamwain.
Mae Kevin Duckworth, 41 oed o Gaerhirfryn, oedd yn farsial yn y ras wedi gwadu peidio â chymryd gofal rhesymol i warchod iechyd a diogelwch eraill.
Mae British Cycling wedi pledio'n ddieuog i beidio â sicrhau iechyd a diogelwch gwylwyr.
Mae'r ddau wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl i'r achos - sydd wedi'i glustnodi ar gyfer 4 Mehefin y flwyddyn nesaf - yn Llys y Goron Yr Wyddgrug bara pedair wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2014