Angen 'camau difrifol' i recriwtio mwy o ferched tân

  • Cyhoeddwyd
tan

Mae angen i'r awdurdodau tân gymryd "camau difrifol" i recriwtio mwy o ddiffoddwyr benywaidd yng Nghymru, yn ôl un elusen sy'n hyrwyddo cydraddoldeb.

Daw'r alwad ar ôl cais Rhyddid Gwybodaeth gan BBC Cymru, a ddatgelodd mai dim ond 4% o ymladdwyr tân yng Nghymru sy'n ferched.

Dywedodd elusen Chwarae Teg fod y ffigyrau'n siomedig ond ddim yn "syndod".

Dywedodd y tri gwasanaeth tân yng Nghymru eu bod yn cynnal "dyddiau gweithredu positif" i annog diffoddwyr newydd posib o grwpiau lleafrifol i ymuno â'r gwasanaeth.

Gofynnwyd i wasanaethau Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru a De Cymru ddarparu ffigyrau cyflogaeth ar gyfer eu staff.

Nid oedd y ffigyrau'n cymharu'n ffafriol gyda rhai heddluoedd Cymru, lle mae tua 30% o swyddogion yn ferched.

Diffoddwyr tân benywaidd yng Nghymru yn 2017:

  • De Cymru: 34 (2.4%)

  • Canolbarth a Gorllewin Cymru: 58 (5.2%)

  • Gogledd Cymru: 36 (5.4%)

Swyddogion heddlu benywaidd yng Nghymru yn 2017:

  • Heddlu De Cymru: 900 (% ddim ar gael)

  • Heddlu Dyfed-Powys: 372 (32%)

  • Heddlu Gwent: 389 (33%)

  • Heddlu Gogledd Cymru: 510 (34%)

Cyflwynodd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru ffigyrau yn dyddio'n ôl i 2006, De Cymru i 2007 a Chanolbarth a Gorllewin Cymru ers 2009.

De Cymru oedd â'r gyfran isaf o ddiffoddwyr tân benywaidd, gyda'r ganran yn llai 'na 3% bob blwyddyn am y 10 mlynedd diwethaf.

'Stereoteipio'

Dywedodd Prif Weithredwr Chwarae Teg, Cerys Furlong, fod angen "cymryd camau difrifol" i fynd i'r afael â'r gwahaniaeth.

"Mae pobl yn dweud wrth fechgyn ifanc y dylent geisio anelu am broffesiynau fel y gwasanaeth tân, tra bod pobl yn dweud wrth ferched nad ydynt yn ddigon cryf na dewr i wneud y gwaith," meddai.

"Mae plant yn wynebu stereoteipio rhyw o'r cychwyn, o'r teganau y maent yn eu chwarae, i'r llyfrau y maent yn eu darllen, i'r gwisgoedd y maent yn eu gwisgo, a hyd yn oed yr hyn maent yn ei ddysgu yn yr ysgol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah Lodder wedi bod yn ddiffoddwraig tân ers 20 o flynyddoedd

Dywedodd rheolwr gorsaf dân Llanelli, Hannah Lodder, sy'n 41 ac wedi bod yn ddiffoddwr tân ers 20 mlynedd, ei bod wedi wynebu rhai rhwystrau yn ei gyrfa oherwydd ei rhyw.

Ond ychwanegodd bod y gwasanaeth yn "esblygu'n gyson" a bod "mwy o diffoddwyr sy'n fenywod i'w weld erbyn hyn".

Dywedodd rheolwr adnoddau dynol Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru, Llinos Gutierrez-Jones, bod nifer o feini prawf mae'n rhaid i'r gwasanaeth eu sicrhau wrth recriwtio diffoddwyr tân newydd, gan gynnwys bod yn ffit ac yn iach yn gorfforol.

Ond maen nhw hefyd am i'r gweithlu "gynrychioli'r cymunedau amrywiol y maent yn eu gwasanaethu".

Dywedodd Mark Malson, rheolwr adnoddau dynol Gwasanaeth Tân De Cymru, fod ganddo strategaeth hefyd i gefnogi recriwtio menywod.