Barnwr yn tyngu llw i'r Goruchaf Lys yn Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynrychiolydd cyntaf o Gymru i gael ei benodi i'r llys pwysicaf yn y DU wedi tyngu ei lw - a hynny yn y Gymraeg.
Roedd yr Arglwydd Ustus Lloyd-Jones, sy'n 65 oed ac o Bontypridd, yn un o dri barnwr i gael eu penodi i'r Goruchaf Lys ddydd Llun.
Hwn oedd y tro cyntaf i'r Gymraeg gael ei defnyddio yn y seremoni tyngu llw, wrth i'r barnwr wneud hynny'n ddwyieithog.
Yr Arglwydd Ustus Lloyd-Jones, neu Syr David Lloyd-Jones, oedd prif farnwr cylchdaith Cymru cyn iddo gael ei benodi i'r Llys Apêl yn 2012.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Pontypridd ac yna Coleg Downing yng Nghaergrawnt.
Yn Gymro Cymraeg, ef oedd cadeirydd Pwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar yr Iaith Gymraeg.
Rhwng 2012 a 2015 ef oedd cadeirydd Comisiwn y Gyfraith.
Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru wedi croesawu'r penodiad, gan ddweud bod hwn yn "ddiwrnod hanesyddol".
Ychwanegodd Mick Antoniw: "Bydd Yr Arglwydd Ustus Lloyd-Jones yn dod â phrofiad a gwybodaeth sylweddol i'r rôl yma a dwi'n siŵr y bydd yn profi i fod yn aelod gwerthfawr o'r Goruchaf Lys."