Grŵp cymunedol yn cytuno i brynu Tafarn Sinc
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp cymunedol yng ngogledd Sir Benfro wedi cytuno mewn egwyddor i brynu tafarn leol hanesyddol oedd yn wynebu gorfod cau.
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas Tafarn Sinc, Hefin Wyn, bod y grŵp wedi dod i gytundeb gyda'r perchnogion presennol i brynu'r busnes.
Yn wreiddiol cafodd y dafarn a bwyty ei rhoi ar y farchnad am £295,000, ond ni lwyddodd y perchnogion i ddod o hyd i brynwr.
Cafodd Cymdeithas Tafarn Sinc ei ffurfio a llwyddodd y grŵp i hel dros £200,000, gan eu galluogi i gytuno ar bris am y dafarn gyda'r perchnogion, er nad yw'r pris terfynol wedi cael ei ddatgelu.
'Cyfanswm o £234,000'
Cafodd y grŵp ei sefydlu ddiwedd Gorffennaf yn dilyn cyfarfod cyhoeddus ym Maenclochog, ac fe gafodd gefnogaeth yr actor Rhys Ifans.
Dywedodd Hefin Wyn: "Y bwriad oedd codi £200,000 erbyn Medi 30 a doedd hi ddim syndod fod swm dipyn yn uwch wedi'i godi.
"Mewn gwirionedd codwyd cyfanswm o £234,000."
Yn ôl cydlynydd y prosiect, y cynghorydd Cris Tomos, roedd hyn wedi'u galluogi i roi cynnig am yr eiddo.
"Rydym yn falch o ddweud fod yna drafodaethau ar y gweill ac rydym yn disgwyl i'r cyfreithwyr gwblhau'r pryniant yn enw Cymdeithas Tafarn Sinc cyn diwedd y mis am swm na chaiff ei ddatgelu," meddai.
Roedd yr ymgyrch i godi arian yn cynnwys gwerthu cyfranddaliadau ac ychwanegodd fod yr ymgyrch yn parhau er mwyn sicrhau dyfodol y fenter.
Dywedodd y perchnogion dros y chwarter canrif ddiwethaf, Brian a Hafwen Davies, eu bod wrth eu bodd o weld y gymuned yn prynu eu heiddo.
Cafodd y dafarn wreiddiol ei hadeiladu yn 1876, pan gafodd y rheilffordd o Glunderwen i Rosebush ei hagor. Ei henw gwreiddiol oedd The Precelly Hotel.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2017