Cynnal gŵyl cyhoeddi Eisteddfod yr Urdd 2018
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl trigolion ar strydoedd Aberhonddu ddydd Sadwrn ar gyfer gŵyl gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd flwyddyn nesaf.
Bydd yr eisteddfod yn cael ei chynnal ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd ym mis Mai 2018.
Dyma'r tro cyntaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Brycheiniog a Maesyfed ers 1978.
Am 11:30 bydd gorymdaith yn cychwyn o Ysgol Uwchradd Aberhonddu gyda chyflwynwyr rhaglen Cyw ar S4C, Huw ac Elin yn arwain.
Ar ôl teithio trwy'r dref bydd yr orymdaith yn stopio wrth ymyl cae chwarae Watton.
Ymhlith yr adloniant yn y prynhawn fe fydd Bromas, Band Tref Aberhonddu a Martyn Geraint yn perfformio ac mae disgwyl cyflwyniadau gan ysgolion yr ardal.
Efallai o ddiddordeb....
Yn 2016 cafodd swyddog ei phenodi yn benodol i ddatblygu aelodaeth yr urdd yn ardal Brycheiniog a Maesyfed ac fe ddywedodd y bydd yna "deimlad gwahanol" i'r wŷl am fod y maes fel arfer yn cael ei ddefnyddio i gynnal sioeau amaethyddol.
Mae cystadleuaeth wedi ei chynnal er mwyn ceisio denu ysgolion ac adrannau i ddylunio baneri ar gyfer yr ŵyl gyda'r person sy'n dylunio'r faner orau yn derbyn gwobr ariannol.
Bydd y baneri yn cael eu cario yn ystod yr orymdaith ac i'w gweld ar y maes yn ystod wythnos yr eisteddfod.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Stephen Mason bod y cyhoeddi yn gyfle i ddweud wrth bobl bod yr eisteddfod yn ymweld â'r ardal.
"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb i Aberhonddu fel rhan o'r Ŵyl Gyhoeddi ar y 7fed o Hydref.
'Argoeli'n dda'
"Mae pob ysgol yn yr ardal wedi eu gwahodd i ymuno yn yr hwyl ac mae'n gyfle i ni drigolion lleol - yn blant, pobl ifanc, rhieni, athrawon a busnesau - i estyn croeso i weddill Cymru ac i dynnu sylw trigolion Aberhonddu a'r cylch fod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ymweld â Brycheiniog a Maesyfed y flwyddyn nesa'."
Mae Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn wedi diolch i bobl yr ardal a'r cyngor sir am eu gwaith paratoi yn y misoedd diwethaf.
"Mae'n argoeli i fod yn ddiwrnod gwerth chweil ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r bobl leol am eu cefnogaeth a'u brwdfrydedd dros ddyfodiad Eisteddfod yr Urdd i'r ardal," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2016