Arloeswr yr amlosgi
- Cyhoeddwyd
Ar 3 Hydref, cafodd cofeb ei dadorchuddio ym mhentref Rhydri ger Caerffili i nodi man geni un o arloeswyr mwyaf Cymru yn Oes Fictoria.
Cafodd Dr William Price ei eni ar fferm Ty'n-y-coedcae ar gyrion y pentref yn 1800. Pan yn ifanc penderfynodd ei fod am fod yn feddyg. Ar ôl cyfnod gyda llawfeddyg yng Nghaerffili aeth i astudio yn Ysbyty St. Barts yn Llundain.
Ar ôl ei gyfnod yn y coleg daeth yn ôl i Gymru i fod yn feddyg yn ffatri haearn enwog Brown Lennox ym Mhontypridd (archfarchnad Sainsbury's sydd yno heddiw). Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, ef oedd meddyg personol teulu Crawshay, perchnogion gweithfeydd haearn yn yr ardal.
Ond er yn feddyg uchel ei barch, roedd gan Dr Price ochr eithaf ecsentrig i'w gymeriad.
Dianc i Ffrainc
Roedd e yn ôl pob sôn yn aml yn cael ei weld yn nofio'n noeth yn afonydd a llynnoedd yr ardal. Ond roedd e'n arloeswr hefyd, ac yn credu mewn addysg am ddim i bawb ac y dylai pobl y tu hwnt i'r tirfeddiannwyr gael yr hawl i bleidleisio.
Roedd yn aelod o'r Siartwyr, ond roedd yn ddigon call i gadw draw o'u gwrthryfel yng Nghasnewydd yn 1839. Er mwyn osgoi cael ei erlid, dihangodd i Ffrainc ac yno y datblygodd ei syniadau mwyaf rhyfedd.
Pan ddaeth yn ôl i Gymru dechreuodd wisgo mewn modd anarferol iawn a galw ei hyn yn dderwydd.
Bedyddiodd ei blant ar hen garreg Y Maen Chwyf ym mhlwyf Eglwysilian ger Pontypridd. Roedd yn fan cyfarfod i dderwyddon gan gynnwys Iolo Morganwg.
Dyw'r gyfraith ddim yn bodoli!
Iesu Grist oedd enw ei fab cyntaf, cam bwriadol i herio arweinwyr crefyddol y cyfnod, ond yn anffodus, bu farw'r bachgen yn bum mis oed.
Gan gredu fod hi'n llygru'r ddaear i gladdu corff, trefnodd amlosgi corff ei fab ifanc. Pan welodd trigolion tref Llantrisant y tân yn llosgi ar fynydd gerllaw aeth torf o bobl yno i atal y Dr Price rhag cyflawni'r weithred a mynnu ei fod yn cael ei arestio.
Yn yr achos llys, ceisiodd yr erlynwyr brofi fod amlosgi corff yn erbyn y gyfraith, ond roedd William Price yn ddigon craff i ddadlau nad oedd y fath ddeddf yn bodoli ac fe gafodd ei ryddhau.
Cafodd ei fab ei amlosgi wedi'r cwbl. O ganlyniad i'r cynsail hwn, daeth amlosgi'n ffurf gyffredin o drin corff wedi marwolaeth ac mi ddaeth Dr Price yn enwog dros Brydain a'r byd.
Bu farw ar 23 Ionawr 1893, ac yn ôl ei ddymuniad, cafod ei amlosgi yn union yr un man â'i fab.
Bu'n rhaid defnyddio dwy dunnell o lo ar gyfer y goelcerth a daeth 20,000 o bobl i dalu'r deyrnged ola' i'r cymeriad mwyaf lliwgar ac arloesol a welodd Cymru erioed.