Llên Cymru: Cadeirydd adolygiad yn amddiffyn adroddiad
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd adolygiad dadleuol o lenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru wedi amddiffyn ei waith wrth ymddangos o flaen pwyllgor Cynulliad.
Roedd yr Athro Medwin Hughes yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Un o brif argymhellion ei adolygiad oedd trosglyddo llawer o gyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru i Gyngor Llyfrau Cymru.
Ond er i Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, ddweud ym mis Mehefin ei fod yn ystyried derbyn argymhellion yr adroddiad, mae gwrthwynebiad cyhoeddus wedi dod gan Lenyddiaeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Maen nhw wedi beirniadu cywirdeb yr adroddiad ac maent yn honni bod gwrthdaro buddiannau ymhlith aelodau'r panel.
Mae eraill, gan gynnwys Cyngor Llyfrau Cymru, wedi cymeradwyo casgliadau'r adolygiad.
'Emosiwn'
Derbyniodd Llenyddiaeth Cymru £717,000 gan Lywodraeth Cymru drwy'r Cyngor Celfyddydau y llynedd i hyrwyddo llenyddiaeth, tra bod Cyngor Llyfrau Cymru wedi derbyn £3.5m gan y llywodraeth i gyhoeddi a dosbarthu llyfrau.
Wrth roi tystiolaeth, dywedodd yr Athro Hughes nad oedd "yn synnu ar yr emosiwn a oedd yn gysylltiedig" â'r ymateb i gyhoeddiad ei adroddiad.
Galwodd ar ysgrifennydd yr economi i gyhoeddi'r mwy nag 800 o gynrychioliadau gafodd eu hanfon at y panel yn trafod cyflwr llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru, a dywedodd wrth y pwyllgor y byddai rhai o'r sylwadau yn eu "synnu".
'Diwydiannau llawn carfanau'
Dywedodd yr Athro Hughes ei fod wedi aros yn dawel tra bod eraill wedi cymryd rhan mewn dadl gyhoeddus am argymhellion yr adolygiad dros yr haf.
Ond ychwanegodd: "Rydw i wedi sylwi ar lawer o haerllugrwydd dros y misoedd diwethaf. Ychydig iawn o wyleidd-dra rydw i wedi ei weld."
Fel is-ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae hefyd yn goruchwylio gwaith Gwasg Prifysgol Cymru.
Oherwydd y berthynas hon, nid oedd yr adolygiad wedi ystyried dyfodol cyhoeddi academaidd yn ffurfiol.
Ond dywedodd yr Athro Hughes ar adegau pan godwyd cyhoeddi academaidd yn ystod gwaith y panel, fe wnaeth "roi'r gorau i'r gadair" a gadael yr ystafell.
Rhoddodd is-gadeirydd y panel, Elin Haf Gruffydd Jones, dystiolaeth i'r pwyllgor hefyd.
Fel cyfarwyddwr Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth mae ganddi rôl yn goruchwylio gwaith Cyfnewidfa Lên Cymru, a oedd wedi derbyn cyllid gan Lenyddiaeth Cymru yn y gorffennol.
'Pam yn trafferthu ariannu?'
Dywedodd Ms Jones ei bod wedi ymddwyn mewn ffordd "tryloyw" wrth ddatgan ei buddiannau, a bod Mr Skates wedi cymeradwyo penodi holl aelodau'r panel.
Ychwanegodd fod y ddadl gyhoeddus wedi canolbwyntio ar gynigion y panel i ddileu llawer o gyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru, ond bod cyfanswm o 50 o argymhellion roedd angen eu hystyried.
Yn dilyn cwestiwn gan AC Llafur Lee Waters am ganfyddiad bod y panel wedi "gwneud hatchet job" o waith Llenyddiaeth Cymru, dywedodd yr Athro Hughes fod ei ganfyddiadau yn seiliedig ar y dystiolaeth ddaeth o'r prif sefydliadau, a dros 800 o gyflwyniadau ysgrifenedig.
Dywedodd aelod arall o'r pwyllgor, Dawn Bowden AC, fod y diwydiannau cyhoeddi a llenyddiaeth yn ymddangos i gael eu llenwi â "charfanau", a bod ei phrofiad ar y pwyllgor wedi arwain iddi ofyn "pam fod Llywodraeth Cymru yn trafferthu i ariannu rhai o'r sefydliadau hyn".
Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, yn ystyried yr adolygiad ar hyn o bryd, ac ymatebion sefydliadau sy'n cael eu heffeithio gan yr argymhellion.
Fe fydd hefyd yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2017