Galw am gofeb barhaol i Richard Burton ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae yna alwadau i godi cofeb barhaol i'r actor Richard Burton ym Mhort Talbot.
Er ei statws fel un o sêr ffilm fwyaf amlwg yr 20fed ganrif, does 'na ddim cofeb barhaol iddo yn y dre'.
Ganwyd Burton ym Mhontrhydyfen yng Ngwm Afan ond symudodd i ardal Taibach, Port Talbot i fyw gyda'i chwaer ar ôl marwolaeth ei fam.
Gadawodd enwogrwydd Richard Burton etifeddiaeth enfawr i'r dref, ond cafodd y dref effaith fawr arno ef hefyd fel dyn ifanc yn tyfu i fyny yn ne Cymru.
'I'r ifanc a'r hen'
Yn fab i löwr, llwyddodd i gyrraedd uchelfannau'r byd ffilm, ac fe bwysleisiodd yn aml mewn cyfweliadau ar draws y byd pwysigrwydd ei fagwraeth Gymreig a Chymraeg yng Nghwm Afan.
Roedd Burton, sy'n enwog am ei lais isel cyfoethog a'i fywyd personol lliwgar, yn un o nifer o actorion llwyddiannus o Bort Talbot, ac yn ôl ymgyrchwyr mae'n hen bryd am gofeb fwy amlwg i ddathlu ei gysylltiad â'r dre'.
Mae Eirwen Hopkins, sy'n rhedeg prosiect "Burton@14" wedi'i gefnogi gan arian Cronfa Dreftadaeth y Loteri, yn awyddus i'r gymuned leol dod at ei gilydd i feddwl am sut orau i gofio mab enwocaf Port Talbot.
"Rydyn ni'n gobeithio y byddwn ni'n gallu rhannu syniadau ar sut mae'r dre yn gallu cofio Richard Burton, ac atgoffa'r byd am yr holl sêr eraill sydd wedi rhoi Port Talbot ar y map rhyngwladol."
Yn ogystal â sefydlu amgueddfa, mae ailenwi Theatr y Dywysoges Frenhinol ym Mhort Talbot ar ôl Burton wedi ei grybwyll fel syniad i goffáu'r actor.
Dywedodd Sian Owen, nith Richard Burton sydd hefyd yn actores: "Rydyn ni wedi siarad am hwn nawr am flynyddoedd, dwi wedi bod mewn cyfarfod ar ôl cyfarfod i weld beth allen nhw wneud.
"Gyntaf i gyd ro'n nhw am alw'r theatr yn The Richard Burton Theatre, ond wedyn wnaeth hwnna newid, ond rwy'n credu dyna'r syniad gorau wnaeth ddod mas o'r holl beth.
"Rhyw fath o museum bach neu rywbeth fel yna, neu efallai statue?
"Mae lot o bethau gyda fi, cwpl o awards 'da fi a phethau fel yna, a dwi wedi dweud yn bendant, gallen nhw gael nhw os ydyn nhw moyn nhw.
"Mae lot o bobl enwog wedi dod o Bort Talbot a dwi'n credu bod angen rhyw fath o museum falle, cornel i 'Wncl Rich' a chornel i Tony Hopkins ac i Michael Sheen a Rob Brydon, i neud e i'r bobl ifanc a'r hen."