Casgliadau sbwriel Ceredigion i newid?
- Cyhoeddwyd
Bydd Cabinet Cyngor Ceredigion yn ystyried newid y drefn o gasglu biniau du i unwaith pob tair wythnos yn y blynyddoedd nesa.
Mewn cyfarfod o Bwyllgor Cymunedau Ffyniannus y Cyngor ddydd Mercher fe gytunodd aelodau ar gynllun i newid pa mor aml fydd casgliadau sbwriel yn cael eu gwneud, a hefyd beth fydd yn cael ei gasglu.
Daw'r argymhelliad gan swyddogion y Cyngor yn dilyn adolygiad gan ymgynghorwyr allanol i ystyried sut fyddai'r Cyngor yn darparu'r gwasanaeth hwn yn y dyfodol, a thoriadau yn y gyllideb.
Clywodd y Pwyllgor fod bagiau du ar hyn o bryd yn cael eu casglu unwaith bob pythefnos, a bod bagiau ail-gylchu gwyrdd a biniau bwyd yn cael eu casglu'n wythnosol.
O dan y drefn newydd sy'n cael ei argymell i'r Cabinet fe fyddai bagiau gwyrdd a bwyd yn cael eu casglu bob wythnos, a bagiau du i gael eu casglu unwaith pob tair wythnos.
Ymestyn gwasanaeth i gasglu gwydr
Ar hyn o bryd nid yw Cyngor Ceredigion yn casglu gwydr o'r cartref.
Ond yn dilyn cynllun peilot yn Aberteifi ar y cyd gyda Chyngor Sir Benfro, mae'r swyddogion hefyd yn argymell ymestyn y gwasanaeth i bawb yng Ngheredigion, a bod y gwydr yn cael ei gasglu ochr yn ochr â'r bagiau du.
Mae Ceredigion yn ailgylchu 68% o'i gwastraff - yr awdurdod a berfformiodd orau yng Nghymru yn 2016.
Mae disgwyl i'r Cabinet ystyried yr argymhellion yn ystod eu cyfarfod ym mis Tachwedd. Os fydd y cynllun yn cael sêl bendith yr aelodau, fe fydd yr awdurdod yn cynnal ymgynghoriad ar y newidiadau.