Cwyn teulu dynes anabl o Ynys Môn am ddiffyg rhybudd

  • Cyhoeddwyd
Gwenno Rowlands a'i merch Gwawr, 34 oed, yn eu cartref yn Llanfairpwll.
Disgrifiad o’r llun,

Gwenno Rowlands a'i merch Gwawr, 34 oed, yn eu cartref yn Llanfairpwll.

Mae teulu dynes anabl o Ynys Môn sydd angen gofal ddydd a nos yn dweud iddynt gael eu siomi'n fawr o gael pum niwrnod yn unig o rybudd fod pecyn gofal ar ei chyfer yn dod i ben.

Tan ddydd Gwener ddiwetha', roedd cwmni Abacare yn darparu dwy awr o ofal y dydd i Gwawr Rowlands yn ei chartref yn Llanfairpwll, er mwyn ei hymolchi a'i gwisgo.

Ond dywedodd y teulu wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru eu bod nawr yn gorfod mynd ati i chwilio am ofalwyr newydd.

Mewn e-bost i'r teulu, mae'r cwmni'n dweud bod y penderfyniad yn un anodd, ond ei bod hi'n amhosib iddynt barhau efo'r trefniant oherwydd yr angen i alw ar aelodau staff o ardal ehangach.

Pedair oed oedd Gwawr Rowlands pan ddaeth i'r amlwg bod Syndrom Rett arni - cyflwr geneteg prin sy'n effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd gan achosi anabledd corfforol a meddyliol difrifol.

Mae hi nawr yn 34 oed, ac yn methu cerdded ers 10 mlynedd.

'Penderfyniad anodd'

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y cyngor eu bod yn gweithio'n agos gyda "defnyddwyr gwasanaeth a'u darparwyr gwasanaeth, er mwyn sicrhau'r gofal gorau phosib."

Am bum mlynedd, fe fu staff cwmni Abacare yn ymweld â Gwawr ddwywaith y dydd, dan becyn gofal sy'n cael ei ariannu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a'i gydlynu gan adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Ynys Môn.

Ond yn ôl mam Gwawr, Gwenno Rowlands, fe ddaeth y trefniant yna i ben yn annisgwyl.

"Galwad ffôn gall ges i fore Llun diwetha' yn dweud 'bo'r genod yn gorffen ddydd Gwener - ac nad oedd ganddyn nhw ddim staff i ni.'

"O'n i wedi cael sioc dweud y gwir achos o'dd un o'r genod wedi dweud wrthyf i beidio poeni dim, 'dwi di sortio bob dim allan rŵan, ma' bob dim yn ei le.'"

Fe wnaeth cwmni Abacare wrthod ymateb yn uniongyrchol i'r Post Cyntaf. Ond mewn e-bost yn ymateb i gwynion y teulu, mae rheolwr lleol yn dweud bod y penderfyniad i ddod a'r gofal i ben wedi bod yn un anodd.

Trafferthion staffio

Dywedodd eu bod wedi rhoi gwybod i'r cyngor dros bythefnos yn ôl eu bod yn cael trafferth cwrdd ag anghenion y pecyn, gan awgrymu y dylid chwilio am ddarparwr newydd.

Mae'r e-bost hefyd yn dweud eu bod wedi gorfod danfon staff o Wynedd a gogledd Ynys Môn, ac na fyddai modd cynnal sefyllfa o'r fath yn y tymor hir.

Dywedodd Gwenno Rowlands ei bod hi'n anhapus gyda'r sefyllfa.

"Dwi'n siomedig ofnadwy efo'r cwmni na 'sa nhw wedi egluro fwy i mi i rywun gal amser ... neu dylai bod nhw di chwilio am gwmni arall i ni."

Yn yr e-bost i'r teulu, mae Abacare yn dweud eu bod wedi torri eu rheolau eu hunain yn eu hymdrechion i geisio sicrhau gofal i Gwawr - a'u bod wedi rhoi gwybodaeth ynglŷn â'r trafferthion staffio yn yr wythnosau' diwethaf'.

Dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn nad ydyn nhw mewn sefyllfa i wneud sylw ynglŷn ag achosion unigol.

Ond dywedodd llefarydd eu bod "yn ymrwymo i weithio'n agos "gyda'u defnyddwyr gwasanaeth a'u darparwyr gwasanaeth, er mwyn sicrhau'r gofal gorau phosib."

Yn y cyfamser, mae teulu Gwawr Rowlands mewn trafodaethau gyda dau ddarparwr gofal lleol gan obeithio cael rhyw fath o gymorth mor fuan â phosib.