Rhybudd am ddyfodol y Llyfrgell Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
llyfrgell
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Llyfrgell Genedlaethol ei sefydlu yn 1907

Mae Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dweud ei fod yn pryderu am ddyfodol y llyfrgell fel sefydliad cenedlaethol os yw gwariant y llywodraeth ar iechyd yn parhau i gynyddu yn y blynyddoedd nesaf.

Yn ôl Rhodri Glyn Thomas, mae Plaid Cymru wedi sicrhau bod cyllideb y llyfrgell yn parhau'n gyson am y ddwy flynedd nesaf, ond mae'n pryderu am y dyfodol tymor hir.

"Os edrychwch chi mlaen pump i ddeng mlynedd, dyw hi ddim yn gynaliadwy i wario mwy a mwy ar iechyd o fewn cyllideb sy'n lleihau," meddai Mr Thomas cyn Weinidog Treftadaeth yn Llywodraeth Cymru rhwng 2007-8.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod bai ar bolisïau economaidd Llywodraeth y DU ond eu bod yn gwneud "popeth o fewn ein gallu i'w helpu i oresgyn yr heriau real iawn maent yn eu hwynebu".

Yn ôl Mr Thomas, cyn AC Plaid Cymru Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, mae'r dyfodol yn edrych yn un anodd.

"Mae hi'n anodd iawn gweld tu hwnt i'r gyllideb bresennol fod 'na unrhyw obaith mewn gwirionedd am gynnydd yn yr arian ma'r llyfrgell yn ei dderbyn o'r llywodraeth felly ry'n ni'n gorfod edrych yn allanol.

"Os yw'r llywodraeth yn mynd i barhau i wario mwy a mwy ar iechyd yna wrth gwrs mae'r pwysau yn mynd i fod yn fwy ar gyllidebau eraill yn y sector cyhoeddus gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol, ac o fewn y cyd-destun hynny, mae'n bosib y byddai'n anodd iawn i ni barhau fel sefydliad cenedlaethol."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mr Thomas olynu'r Athro Syr Deian Hopkin fel Llywydd yn Ebrill 2016,

'Gwasgfa enfawr'

Daeth ei sylwadau yn dilyn adroddiad diweddar gan Brifysgol Caerdydd yn dweud y gallai gwariant ar iechyd yng Nghymru gynyddu i 56% o gyllideb llywodraeth Cymru ymhen pedair blynedd - gan olygu gwasgfa enfawr ar weddill y gwasanaethu cyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein cyllideb ddrafft wedi cael ei phennu yn erbyn un o'r cyfnodau hiraf o gyni cyson a diangen mewn cof, sydd wedi golygu bod ein cyllideb wedi parhau i ostwng mewn termau real.

"Nid oes modd i ni ddileu effaith cyni Llywodraeth y DU ar wasanaethau cyhoeddus ond rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w helpu i oresgyn yr heriau real iawn maent yn eu hwynebu.

"Y llynedd, fel rhan o gytundeb y Gyllideb gyda Phlaid Cymru, roedd modd i ni warchod cyllid ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol.

"Mae cytundeb y Gyllideb eleni'n adeiladu ar hyn ac yn cynnwys cyfres o ddyraniadau rheolaidd, gan gynnwys £4.4m ychwanegol yn ystod y ddwy flynedd nesaf i gefnogi'r celfyddydau yng Nghymru.

"Bydd cynlluniau gwariant adrannol manwl yn cael eu cyhoeddi ar 24 Hydref."