Webb yn gadael y nyth i ymuno â Toulon

  • Cyhoeddwyd
Rhys WebbFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Rhys Webb chwarae ei gêm gyntaf i'r Gweilch yn 2007

Fe fydd mewnwr Cymru Rhys Webb yn gadael y Gweilch ac yn ymuno â Toulon ar gytundeb tair blynedd ar ddiwedd y tymor.

Mae cytundeb presennol y chwaraewr 28 oed gyda'r Gweilch ac Undeb Rygbi Cymru yn dod i ben yr haf nesa.

Mae'n ergyd arall i'r Gweilch ar ôl y newyddion fod y maswr Dan Biggar wedi cyhoeddi y bydd yn ymuno â Northampton y tymor nesa.

Fe gafodd Webb ei gêm gyntaf i'r Gweilch yn 2007, gan gynrychioli Cymru am y tro cyntaf yn 2012 fel eilydd yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae wedi ennill 28 cap i Gymru, ond fe all ei benderfyniad i symud i Ffrainc beryglu ei ddyfodol rhyngwladol.

Yn ôl polisi Undeb Rygbi Cymru, dros y ddwy flynedd nesa dim ond pedwar chwaraewr sy'n chwarae y tu allan i Gymru fydd yn gallu cael eu dewis i'r tîm cenedlaethol.

Fe fydd y cwota yn gostwng i ddau chwaraewr ar gyfer tymor 2019/20.