Dod o hyd i gorff ar fynydd Cader Idris
- Cyhoeddwyd

Mae timau achub sy'n chwilio am ymwelydd o Ffrainc wedi dod o hyd i gorff ar fynydd Cader Idris yn Eryri.
Dyw'r corff heb gael ei adnabod yn swyddogol.
Fe ddechreuodd yr awdurdodau chwilio am y dyn 30 oed ddydd Sul ar ôl iddo fethu a dychwelyd i'w westy yn y Bala.
Cafwyd hyd i'w gar ym maes Parcio Minffordd, ger llwybr sy'n arwain i Gader Idris.
Fe wnaeth Tîm Achub Aberdyfi ddod o'r hyd i'r corff uwchben Llyn Cau tua 13:00.