Merched Cymru yn 'fwy bregus' i effaith Brexit

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Helen Bradley o Chwarae Teg eisiau sicrwydd gan Lywodraeth Prydain y bydd yna arian ar gyfer prosiectau wedi Brexit

Mae menywod yng Nghymru'n "fwy bregus" i effeithiau Brexit na menywod mewn rhannau eraill o Brydain, yn ôl Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru.

Dywedodd cyfarwyddwr y Rhwydwaith y gallai prosiectau sy'n ceisio gwella cydraddoldeb yn y gweithle fod o dan fygythiad os nad oes arian Ewropeaidd ar gael i dalu amdanynt.

Roedd rhybudd hefyd y gallai swyddi fod yn y fantol yn dilyn Brexit o achos bod economi Cymru'n wan.

Ond dywedodd prif weithredwr Leave.EU, ymgyrchodd dros adael yr UE, y gallai hwn fod yn gyfnod "cyffrous iawn" i fenywod.

Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru'n cynrhychioli sefydliadau sy'n ceisio gwneud Cymru'n le "tecach a mwy diogel i fenywod a merched."

Catherine
Disgrifiad o’r llun,

Gallai swyddi i ferched fod yn fantol medd Catherine Fookes os yw economi Cymru yn crebachu

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Sunday Politics Wales BBC Cymru dywedodd cyfarwyddwr newydd y Rhwydwaith, Catherine Fookes: "Dwi'n credu bod menywod yng Nghymru'n fwy bregus i effeithiau Brexit achos mae llawer mwy o arian Ewropeaidd yn dod i Gymru."

Swyddi rhan amser

"Mae rhywfaint o'r arian yn dod o Gronfa Gymdeithasol Ewrop sy'n helpu menywod i oresgyn tlodi ac i fagu sgiliau, felly pan mae hwnna'n diflannu mae'n mynd i fod yn anodd iawn i fenywod yng Nghymru."

"Yr ail reswm yw bod ein heconomi ni'n wan - mae ein cynhyrchiant ni'n îs ac mae menywod yn tueddu i weithio mewn swyddi rhan-amser a swyddi cyflog isel ac felly os ydy'r economi'n crebachu o gwbl gallai hynny fod yn beryglus iawn i fenywod."

Mae 42% o fenywod sy'n gweithio yng Nghymru'n gweithio mewn swyddi rhan amser o gymharu â 12% o ddynion ym myd gwaith.

Ms Bilney
Disgrifiad o’r llun,

Cyfleoedd sydd yna i ferched yn sgil Brexit medd Liz Bilney

Mewn cyfweliad gyda'r un rhaglen deledu, dywedodd Liz Bilney o Leave.EU: "Dwi'n credu bod Brexit yn creu llawer o gyfleoedd a dwi'n credu gallai hwn fod yn gyfnod cyffrous iawn i fenywod."

"Rydyn ni wastad wedi arwain ar hawliau menywod a chydraddoldeb a byddwn i'n awgrymu y bydden ni'n chwilio am ffyrdd i wario mwy o arian a'i roi'n uniongyrchol i fenywod heb orfod ei dalu i Ewrop yn gyntaf."

Cyfle i ferched

Dywedodd Ms Bilney hefyd y gallai fod mwy o swyddi ar gael wedi Brexit achos y bydd pobl yn gadael Prydain i ddychwelyd i wledydd eraill.

"Bydd cyfle i fenywod gael mwy o waith a mwy o gyflog," meddai.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn y gorffennol y bydd mesurau yn eu lle i amddiffyn deddfwriaeth cydraddoldeb wedi Brexit yn parhau ac y byddan nhw hefyd yn "parhau i daclo unrhyw wahaniaethu."

Mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i "sicrhau bod merched yn cael yr un cyfleoedd a dynion er mwyn gwireddu eu potensial yn y gweithle".

Sunday Politics, BBC 1 Cymru dydd Sul 8 Hydref am 11:00