Cynhyrchwyr gwin eisiau gostyngiad yn eu trethi
- Cyhoeddwyd
Mae cynhyrchwyr gwin yn galw am ostyngiad yn eu trethi er mwyn helpu i'w busnesau ffynnu.
Tra bod y diwydiant yng Nghymru yn fach mae'n tyfu yn gyflym, gyda thua 25 o winllannoedd ar draws Cymru yn cynhyrchu 100,000 poteli o win y flwyddyn.
Ond mae'r rhai sy'n cynhyrchu'r gwin yn dweud bod eu trethi yn fwy llym na rhai sy'n creu seidr a chwrw a'u bod yn talu £2 o dreth am bob potel.
Yn ôl Llywodraeth Prydain mae trethi wedi eu torri 8c y botel ers 2014.
Fe ddechreuodd Colin Bennett a'i wraig Charlotte blannu gwinwydd ar eu tir yn Sir Conwy yn 2012. Ers cychwyn bum mlynedd yn ôl maen nhw wedi ennill gwobrau cenedlaethol a rhyngwladol am eu gwin.
Prynu offer o Ewrop
Er hynny mae'r ddau yn dweud bod y trethi yn feichus.
"Dyma ein gwinllan gyntaf ac mi ydyn ni yn gorfod talu'r cwbl.
"Byddai rhywfaint o ostyngiad - fel mae cynhyrchwyr eraill yn y diwydiant alcohol wedi cael - yn helpu'r diwydiant gwin ym Mhrydain ac yn dilyn hynny'r diwydiant gwin yng Nghymru yn sylweddol," meddai Mr Bennett.
Ond mae'r amodau sydd yn wynebu'r diwydiant yn rhai llym.
Am fod y bunt wedi gostwng ers Brexit mae mewnforio offer gwin o Ewrop yn fwy drud ac mae unrhyw fusnesau sydd yn allforio o Brydain yn cael llai o arian.
"Mi ydyn ni yn bendant yn gallu gweld prisiau yn newid. Dyw'r offer cynhyrchu ddim gyda ni yn fan hyn. Mi ydyn ni yn gorfod mewnforio fe i gyd o dramor," meddai Louise Ryan, perchennog gwinllan yn Y Fenni.
Robb Merchant yw cadeirydd Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru. Mae'n cefnogi galwadau i ostwng trethu a chael yr un amodau a'r diwydiant seidr a chwrw ac mae'n dadlau mai bach iawn fyddai'r ergyd ariannol i'r trysorlys.
"Dim ond 1.4% o'r gwin rydyn ni yn cynhyrchu adref sydd yn cael ei yfed ym Mhrydain."
"Mae'n swm bach iawn i gymharu gyda beth sydd yn dod i mewn i'r wlad."
Darogan y bydd mwy o win yn cael ei gynhyrchu mae Mr Merchant ac mae'n dweud bod gan fwy o bobl ddiddordeb.
"Mae pobl yn sylweddoli nad gimig yw hyn, bod y rhai sy'n tyfu'r gwinllannoedd o ddifri am gynhyrchu gwinoedd o ansawdd uchel."
Dywedodd Llywodraeth Prydain nad oedden nhw yn gallu damcaniaethu ynglŷn ag unrhyw bolisi treth yn y dyfodol am fod hynny yn dibynnu ar y marchnadoedd arian.
Fe ychwanegodd y llefarydd nad oedd cyfreithiau Ewropeaidd yn caniatáu lleihau trethu ar gyfer cynhyrchwyr bach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2016