Deian a Loli a byd y dychymyg
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n un o gyfresi plant mwyaf poblogaidd S4C ers blynyddoedd ac fe enillodd Deian a Loli wobr y Rhaglen Blant Orau yn noson wobrwyo BAFTA Cymru eleni.
Mae ail gyfres o'r ddrama boblogaidd sy'n dilyn anturiaethau'r efeilliaid yn dechrau ddiwedd Hydref, ac fe aeth tocynnau i ddangosiadau premiere arbennig o'r ail gyfres yn sinema Pontio, Bangor yr wythnos hon, mewn diwrnod.
Ond pam fod y gyfres ddrama wedi cipio dychymyg plant Cymru, a pha mor bwysig ydy creu straeon gwreiddiol Cymreig? Bu Cymru Fyw yn holi cynhyrchydd y gyfres Angharad Elen o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth:
Beth oedd yr ysbrydoliaeth?
Wnes i ddod nôl i'r gwaith ar ôl bod ffwrdd yn rhoi genedigaeth i fy ail blentyn, ac er mod i isio gweithio o'n i'n teimlo mor euog yn mynd i ngwaith bob dydd a'u gadael nhw gyda rhywun arall. Felly wnes i benderfynu mod i eisio gwneud rhywbeth iddyn nhw, a dyna oedd yr ysbrydoliaeth i Deian a Loli.
Roedd fy mhlentyndod i yn yr 80au yn eitha' gwahanol i blant heddiw. Ges i'n nwyn i fyny yn Llandwrog lle o'n ni'n mynd allan i chwara', dringo coed a dwyn 'fala. Mae plentyndod dyddia' yma 'di newid, lle 'dan ni'n lapio ein plant mewn wadin, ac ofn iddyn nhw ddringo dim byd rhag ofn iddyn nhw ddisgyn.
'Dan ni wastad yna hefo nhw fel rhyw warchodwyr, felly dydyn nhw byth yn cael y rhyddid yna jyst i fynd i chwara', i'r un graddau â gafon ni.
O'n i isio creu rhywbeth oedd yn gwneud i'r plant fod isio diffodd y teledu a mynd allan i chwara'.
Pam fod Deian a Loli mor boblogaidd?
Does na ddim lot o ddramâu i blant ar S4C; Deian a Loli ydy'r unig un ar hyn o bryd gyda phlant ynddo fo. Mae plant yn licio gweld plant eraill ar y sgrin.
Mae Deian a Loli yn eitha' direidus, dydyn nhw ddim yn blant da drwy'r adag a dwi'n meddwl bod plant yn licio gweld hynna hefyd. Mae yna 'chydig bach o gic iddyn nhw, dydyn nhw ddim yn ufudd drwy'r adeg.
O'n i isio creu rhaglen oedd yn crisialu ffantasi pob plentyn, sef byd heb rhieni, lle mae'r rhieni ddim yn gallu dweud 'na', ac mae'r plant yn gallu meddwl 'beth 'swn i'n 'neud taswn i'n gallu rhewi fy rhieni'?
Beth sydd wedi dylanwadu arnat ti dros y blynyddoedd?
Dwi 'di defnyddio dipyn o betha' sy' wedi dylanwadu arna' i dros y blynyddoedd yn Deian a Loli, fel Rala Rwdins a Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig. Mae 'na elfen o Pippi Hosan-hir (Pippi long stocking) ynddo fo hefyd. O'dd hi'n byw ar ei phen ei hun a doedd hi ddim yn licio awdurdod, y ffantasi 'ma o blant heb rieni.
Pan o'n i'n fach o'n i'n sbïo ar raglenni fatha Jini Mê - maen nhw'n rhaglenni sy' bron fel cult erbyn hyn, lle ti'n trafod nhw efo dy ffrindiau. O'n i eisiau 'neud rhywbeth fydda'n aros yn y cof, y byddai plant heddiw yn dal i'w trafod nhw pan fyddan nhw'n hŷn.
Pa mor bwysig oedd cynhyrchu cyfres wreiddiol Gymreig?
Oedd hynny'n hollbwysig i fi, mae'n beth hollol naturiol. Cymraeg ydy iaith fy mhlant i. Mae 'na bennod yn y gyfres gynta' gyda Modryb Elin Ennog ac mae 'na gyfeiriadau Cymreig a Chymraeg, ac o'n i'n meddwl bod hynna'n bwysig.
Mae 'na lot o raglenni i blant dyddie' yma, ac i oedolion, yn cyfeirio at y diwylliant Eingl-Americanaidd a dydy mhlant i ddim yn gwybod dim byd am y diwylliant hynny eto, ond wrth weld petha' fel 'na ar y teledu ma' nhw'n meddwl eu bod nhw'n gorfod gwybod amdano fo hefyd.
O'n i eisiau rhywbeth oedd yn defnyddio cyfeiriadaeth oedd ganddyn nhw yn barod. Mae'n cadarnhau bod eu diwylliant nhw yn OK.
Sut wyt ti'n teimlo am yr ymateb sydd i'r gyfres?
Mae'n neis i glywed plant yn defnyddio geiriau neu frawddegau o'r rhaglenni. Wnaeth o gymryd oes i fi feddwl am y gair hud - ribidirew. O'n i isio gair y bydde' plant yn ei ddweud ac yn ei chware ar yr iard. Yn fy mreuddwydion dyna fydde plant yn ei wneud, a rŵan mae o'n digwydd.
Byd ffantasi ydy o, rhyw fath o ddihangfa ydy o i blant. Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig i blant deimlo rhywbeth wrth wylio unrhyw beth, wrth brofi unrhyw ddiwylliant. Mae'n beth da i ddychryn plant, mewn ffordd mae'n eu paratoi nhw'n syth, a dyna ydy drama.
Ond mae cyfrifoldeb arnon ni i beidio dychryn gormod ar blant, yn amlwg, ac mae'n rhaid i ni fod yn ofalus. Ond mae'n bwysig i blant gael eu cyffwrdd wrth wylio rhywbeth, a dydy'r byd ddim bob amser yn lle saff.
Dwi'n gobeithio ei bod hi'n gyfres mae'r rhieni yn hoffi ei gwylio hefyd, i wneud y broses o wylio efo'u plant ychydig bach yn llai poenus! Mae hynny'n beth braf.
Mae'n eitha' gwefr i weld yr ymateb, dwi'n licio clywed gan blant. Mae 'na blant yn anfon llythyra' a lluniau atan ni a mae hynny'n beth braf iawn.