Tad yn gwadu llofruddio babi 18 mis oed
- Cyhoeddwyd
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod tad wedi llofruddio ei fabi 18 mis oed yn y brifddinas, bythefnos yn unig ar ôl iddo ef a'i ŵr ei fabwysiadu.
Mae Matthew Scully-Hicks o Gernyw wedi ei gyhuddo o ladd ei ferch Elsie ar ôl "ymosod arni a'i cham-drin" dros gyfnod o fisoedd.
Mae'r diffynnydd 31 oed yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.
Clywodd y llys fod Elsie wedi dioddef anafiadau dwys i'w phen ym Mai 2016 a bu farw yn yr Ysbyty Athrofaol.
Galw am gymorth
Fe glywodd y rheithgor fod Elsie wedi ei mabwysiadu gan Mr Scully-Hicks a'i ŵr Craig ym Medi 2015, a bod y broses o fabwysiadu wedi ei gwblhau wyth mis yn ddiweddarach.
Yn ôl yr erlynydd Paul Lewis QC, fe wnaeth parafeddygon ddod o hyd i Elsie yn ddiymadferth yng nghartref y diffynnydd.
"Y diffynnydd oedd yn gyfrifol am yr anafiadau wnaeth achosi ei marwolaeth a hynny ychydig cyn iddo alw am gymorth y gwasanaethau brys," meddai Mr Lewis.
"Nid hwn oedd y tro cyntaf iddo ymddwyn yn dreisgar tuag at Elsie, na chwaith y tro cyntaf iddo achosi niwed difrifol.
"Ei weithred ar brynhawn 25 Mai oedd penllanw ymosodiadau treisgar tuag at blentyn diniwed - merch y dylai fod wedi ei charu a'i hamddiffyn, ond yn hytrach fe wnaeth ymosod arni, ei cham-drin ac yn y pendraw ei llofruddio."
'Syrthio lawr grisiau'
Clywodd y llys fod Elsie wedi dioddef gwaedlif i'w hymennydd a thu ôl i'w llygaid ac i feddygon benderfynu diffodd ei pheiriant cynnal bywyd.
Yn ôl profion meddygol roedd yna olion o waedu arall ar yr ymennydd a thu ôl i'r llygaid, yn dyddio nôl ymhellach.
Fe wnaeth archwiliad post mortem ddatgelu fod asennau Elsie wedi eu torri, a roedd hi hefyd wedi dioddef toriad i'w choes a'i phenglog.
Yn ôl yr erlyniad, Matthew Scully-Hicks oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau honedig ar Elsie tra bod ei bartner Craig, cyfarwyddwr cwmni busnes, yn ei waith.
Dywedodd yr erlyniad hefyd fod Elsie yn Nhachwedd 2015, dau fis ar ôl iddi fod gyda'r cwpl, wedi torri ei choes tra dan ofal Matthew Scully-Hicks. Roedd o, meddai Mr Lewis, wedi rhoi gwahanol resymau sut i hynny ddigwydd.
Fis ar ôl hynny fe gafodd glais ar ei thalcen. Dywedodd ymwelydd iechyd y dylai'r anaf gael ei drin. Honnir fod Matthew Scully Hicks wedi dweud celwydd pan ddywedodd fod yr anaf wedi cael ei drin.
Ym mis Ionawr, fe wnaeth Elise ddioddef clais arall ar ei phen ac ym mis Mawrth fe aed â hi' i'r ysbyty mewn ambiwlans wedi i Matthew Scully-Hicks ddweud ei bod wedi syrthio lawr y grisiau.
Cafodd Elsie ei rhyddhau o'r ysbyty ar ôl pedair awr ar ôl i'r awdurdodau ddweud bod ei anafiadau yn yr un fath ag anafiadau rhywun a fyddai wedi "cwympo lawr grisiau."
Mae'r achos yn parhau.