Tad 'ddim yn gwybod' am drais yn erbyn babi
- Cyhoeddwyd
Mae gŵr dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio eu merch wedi dweud wrth lys na fyddai wedi goddef unrhyw drais petai'n gwybod amdano.
Mae Matthew Scully-Hicks, sy'n 31, wedi ei gyhuddo o gam-drin Elsie, oedd yn 18 mis oed, dros gyfnod o fisoedd ac achosi anafiadau "trychinebus" i'r ferch cyn ei marwolaeth yn 2016.
Dywedodd Craig Scully-Hicks wrth Lys y Goron Caerdydd bod ei dŷ wedi bod yn "llawn cariad a hapusrwydd, drwy'r amser".
Mae Matthew Scully-Hicks, o Delabole yng Nghernyw, yn gwadu llofruddiaeth.
Marwolaeth
Clywodd y llys gan Craig Scully-Hicks am alwad y cafodd ar 25 Mai 2016 pan ddywedodd ei ŵr bod Elsie wedi ei hanafu yn eu cartref.
Dywedodd Mr Scully-Hicks bod ei ŵr wedi cynhyrfu ac yn crio: "Roedd Elsie yn wael iawn. Roedd o wedi gorfod rhoi CPR iddi ac roedd hi mewn ambiwlans."
Ychwanegodd ei fod wedi gyrru o Gaerlŷr, lle roedd yn gweithio, i'r ysbyty yng Nghaerdydd.
Dywedodd iddo deimlo'n emosiynol iawn pan welodd ei ferch yn yr ysbyty: "Roedd pobl ym mhobman ac roedd hi'n gorwedd ar y bwrdd... Dywedodd y meddyg bod problem gyda'i chalon a bod pobl yn gweithio arni."
Clywodd y rheithgor bod Matthew Scully-Hicks wedi dweud iddo ddarganfod y ferch ar y llawr, ac nad oedd hi'n symud.
Dywedodd Craig Scully-Hicks bod ei ŵr wedi dweud iddo alw ambiwlans a dechrau CPR.
Dywedodd yr erlynydd Paul Lewis QC nad oedd meddygon wedi gallu ei hachub, ac fe gafodd ei pheiriant cynnal bywyd ei ddiffodd. Bu farw ar 29 Mai.
Anafiadau
Dydd Llun, clywodd y llys bod Elsie wedi marw oherwydd gwaedu ar ei hymennydd, ac roedd wedi torri asennau, ei choes a'i phenglog.
Mae Matthew Scully-Hicks wedi ei gyhuddo o achosi'r anafiadau drwy ei hysgwyd.
Dywedodd Craig Scully-Hicks wrth y llys bod tŷ'r cwpl yn "llawn cariad a hapusrwydd, drwy'r amser".
Ychwanegodd: "Petawn i wedi amau unrhyw beth, ni fyddwn ni wedi goddef hynny."
Yn y misoedd cyn ei marwolaeth, fe wnaeth Elsie ddioddef anafiadau ar ôl disgyn yn y gegin ac i lawr grisiau.
Dywedodd Craig Scully-Hicks nad oedd yn y tŷ ar yr achosion yna.
Mae'r achos yn parhau.