Angen mwy o athrawon Cymraeg
- Cyhoeddwyd
![Alun Davies](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/116E2/production/_98249317__94641511_alundavies_taskforce-1.jpg)
Dywedodd Alun Davies AC fod 'rhaid cydnabod fod addysg yn gatalydd allweddol' er mwyn ceisio cyrraedd y targed o gyrraedd 1m o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
Mae angen "addasu a moderneiddio" y ffordd mae addysg Gymraeg yn cael ei chynllunio, yn ôl Gweinidog y Gymraeg.
Daeth sylwadau Alun Davies wrth iddo ymateb i adolygiad brys o strategaethau addysg Gymraeg awdurdodau lleol Cymru.
Dywedodd Mr Davies ei fod e'n derbyn hefyd bod angen "gweithredu brys" i gynyddu'r nifer o athrawon sy'n cael eu hyfforddi i addysgu yn y Gymraeg.
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i baratoi a chyflwyno Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg i Lywodraeth Cymru eu hystyried.
Mae'n rhaid i'r cynlluniau gynnwys targedau a chamau gweithredu clir ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn ardaloedd y gwahanol awdurdodau.
Angen newidiadau mawr
Yn gynharach eleni dywedodd Mr Davies bod cynlluniau rhai cynghorau ar gyfer y cyfnod 2017-2020 yn dangos diffyg uchelgais a'i fod e wedi gofyn i'r cyn-aelod cynulliad Aled Roberts gynnal adolygiad.
Yn ei adroddiad, daeth Aled Roberts i'r casgliad ei bod hi'n "bur amlwg bod angen newidiadau mawr yn ein dulliau cynllunio".
Mewn datganiad yn y Cynulliad dywedodd Alun Davies: "Mae'n rhaid i ni nawr addasu a moderneiddio'r ffordd yr ydym yn cynllunio addysg Gymraeg er mwyn adlewyrchu uchelgais Cymraeg 2050, gan gydnabod fod addysg yn gatalydd allweddol ar gyfer newid."
"Yn yr haf eleni, mi wnes i ddatgan cynllun y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.
"Mi fydd hyn yn gofyn am uchelgais, cefnogaeth ac arweiniad gan awdurdodau lleol, llywodraethwyr, penaethiaid ysgolion ac wrth gwrs rhieni a disgyblion eu hunain, er mwyn cyrraedd ein targed o 40 y cant o ddysgwyr yn derbyn addysg Gymraeg erbyn 2050."
![Adroddiad Cymraeg 2050](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D32B/production/_96895045_de27-1.jpg)
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae 22% o blant saith mlwydd oed yn cael addysg cyfrwng Cymraeg. Bwriad gweinidogion yw cynyddu hynny i 30% erbyn 2031 ac yna i 40% erbyn 2050
Ychwanegodd Mr Davies ei fod yn derbyn holl argymhellion adroddiad Aled Roberts, gan gynnwys:
Cryfhau'r berthynas rhwng llywodraeth leol a'r Mudiad Meithrin;
Symleiddio proses categoreiddio ieithyddol ysgolion;
Cynllunio a gweithredu brys er mwyn cynyddu'r nifer o athrawon sydd yn cael eu hyfforddi i addysgu yn y Gymraeg.
Fe ddywedodd e hefyd bod swyddogion y llywodraeth wedi bod yn gweithio gyda chynghorau sir i ddiwygio eu Cynlluniau Strategol a'i fod e'n disgwyl derbyn y rhai diwygiedig yn yr wythnos nesa.
"Ond gadewch i mi fod yn gwbl glir, fyddai ddim yn cymeradwyo dim un cynllun sydd ddim yn dangos uchelgais," ychwanegodd.