Dyfarniad agored yng nghwest marwolaeth dyn o'r Rhyl

  • Cyhoeddwyd
Liam HillFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mr Hill ei weld yn gadael tafarn yn Y Rhyl ddeuddydd cyn i'w gorff gael ei ddarganfod

Mae crwner wedi cofnodi dyfarniad agored yn y cwest i farwolaeth dyn o Sir Ddinbych.

Fe glywodd y cwest ei bod hi'n amhosib dod i gasgliad ynglŷn ag a fu ymosodiad ar Liam Hill, 44 oed o'r Rhyl, neu os bu farw o ganlyniad i nifer o gwympiadau.

Cafodd corff Mr Hill ei ddarganfod yn ei fflat yn y dref yn Ionawr 2016.

Fe wnaeth archwiliad post-mortem ddangos ei fod wedi dioddef nifer o anafiadau, gan gynnwys "anafiadau o ganlyniad i drawiadau" ar ei ben, cleisiau ar ei gorff a chwydd ar yr ymennydd.

Fe ddyfarnwyd ei fod wedi marw o ganlyniad i drawma ar ei frest a'i ben.

'Llofruddiaeth posib'

Dywedodd y patholegydd, Dr Brian Rogers fod rhai o'r anafiadau yn "anodd eu hesbonio".

Ychwanegodd Dr Rogers ei fod yn pryderu am rai o'r anafiadau a'u dosbarthiad, ac mae wedi cynghori'r heddlu i edrych ar yr achos fel "llofruddiaeth posib tan fydd modd profi i'r gwrthwyneb".

Clywodd y cwest fod Mr Hill wedi bod yn dioddef o gamddefnyddio alcohol yn y gorffennol, ac mae camerâu yn dangos Mr Hill yn gadael bar yn Y Rhyl.

Dywedodd tystion eu bod wedi gweld Mr Hill y noson honno a'i fod yn feddw. Yn ôl un tyst roedd Mr Hill wedi dweud ei fod yn feddw ac wedi disgyn yn gynharach.

Cafwyd hyd i'w waed ar risiau ond doedd yr heddlu methu rhoi dyddiad pendant arno.

Dywedodd y crwner, John Gittins: "Allai ddim bod yn sicr bod rhywun wedi ymosod arno a bod hynny wedi arwain at ei farwolaeth."

Ychwanegodd nad oedd digon o dystiolaeth i ddweud mai damwain oedd hi.