Clwb Ifor Bach mewn trafodaethau i ymestyn ei safle

  • Cyhoeddwyd
Clwb Ifor Bach
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle dan sylw dros nesaf i Glwb Ifor Bach ar Stryd Womanby

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu eu bod mewn trafodaethau â Chlwb Ifor Bach am ymestyn safle'r clwb nos, wrth i'r cyngor gwblhau'r broses o brynu safle gwag ar Stryd Womanby.

Mae Arweinydd y cyngor, Huw Thomas, wedi bod yn gweithio â grŵp Achub Stryd Womanby, gafodd ei sefydlu yn gynharach eleni, i geisio achub cerddoriaeth fyw yng nghanol y ddinas.

Fe ddaeth hynny yn dilyn pryderon y gallai datblygiadau preswyl a gwesty ar y stryd arwain at leoliadau cerddoriaeth yn cael eu gorfodi i gau oherwydd y sŵn.

Dywedodd Mr Thomas bod y cyngor yn y broses o brynu'r safle oedd yn cael ei gynnig ar gyfer y datblygiad preswyl - drws nesaf i Glwb Ifor Bach.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd grŵp Achub Stryd Womanby ei sefydlu yn gynharach eleni

Roedd y datblygwr Afzal Khan wedi cynnig troi'r safle yn floc saith llawr o fflatiau, ond cafodd yr awgrym ei feirniadu'n hallt gan bobl oedd yn pryderu y gallai niweidio sîn gerddoriaeth y ddinas.

Fe gafodd y cais hwnnw ei dynnu 'nôl ddiwedd mis Medi.

'Diogelu calon cerddoriaeth'

"Rydym hefyd wedi dechrau trafod telerau masnachol ar gyfer Clwb Ifor Bach i wneud defnydd o'r safle i alluogi'r lleoliad hwnnw i gael ei ymestyn," meddai Mr Thomas.

"Drwy ymyrryd fel hyn, rydym yn diogelu calon cerddoriaeth canol ein dinas.

"Mae Stryd Womanby yn gartref i sawl lleoliad byw sy'n creu awyrgylch a rhanbarth heb fod yn debyg i unrhyw ran arall o'r brifddinas."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Guto Brychan bod y datblygiad yn "newyddion gwych"

Dywedodd Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach, Guto Brychan wrth BBC Cymru Fyw bod y datblygiad diweddaraf yn "newyddion gwych".

Ychwanegodd: "Rydym wedi bod yn trafod gyda'r cyngor ers yn gynnar yn yr ymgyrch i weld sut medrid diogelu Stryd Womanby tua'r dyfodol a sicrhau parhad i'r gwasanaeth mae'r Clwb yn ei gynnig.

"Mae eu parodrwydd i edrych ar opsiynau ymarferol i ddatrys y problemau rydym wedi bod yn eu hwynebu wedi bod yn galonogol tu hwnt.

"Hoffwn ddiolch i Huw Thomas a'r cyngor am eu holl waith dros y misoedd diwethaf i sicrhau bod cerddoriaeth byw yn parhau i fod yn rhan annatod o fywyd diwylliannol Caerdydd."