Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr 'am orwario o £50m'

  • Cyhoeddwyd
Betsi Cadwaladr

Mae adroddiad ar sefyllfa ariannol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladar yn dweud y gallai eu gorwariant ddyblu dros y flwyddyn nesa.

Roedd bwrdd iechyd mwyaf Cymru yn rhagweld y byddai'n gorwario £26m y flwyddyn hon - ac y byddai hynny'n cyfateb a 2% o gyllideb y bwrdd.

Ond nawr mae'r rhagolwg wedi newid ac mae disgwyl i'r gorwariant terfynol ar gyfer y flwyddyn hon gyrraedd £50m. Mae hynny ddwywaith y nod gwreiddiol.

Roedd yno orwariant o £20m ddwy flynedd yn ôl, ac o £30m y llynedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru, sydd yn parhau i reoli'r bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig, na fyddan nhw'n camu i'r adwy i'w helpu, gan ddweud bod "gorwario yn annerbyniol."

Mae'r bwrdd yn dweud ei fod yn gweithredu i wneud arbedion, a'i fod yn gwneud popeth posib i ddarparu gwasanaethau o safon uchel tra'n ceisio cyrraedd y targedau ariannol.

Her ariannol y byrddau

Nid Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ydy'r unig awdurdod yng Nghymru sy'n wynebu her ariannol.

Mae yna dwll yng nghyllidebau byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro, Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda hefyd - ond mae hynny o ganlyniad i orwario y llynedd yn hytrach na gorwariant yn barod eleni.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y gorwario yma'n annerbyniol, a bod angen i'r byrddau weithredu i wella'u sefyllfa ariannol.