Lluniau'r hydref
- Cyhoeddwyd
Dyma rai o'r lluniau rydych chi wedi bod yn eu rhannu o hud yr hydref 2017 wrth i'r tymor droi a'r dail newid eu lliw.

Jambo, ci Sioned Owen, yn mwynhau chwarae gyda dail yr hydref

Oherwydd ei fod yn amser llaith a thamp o'r flwyddyn mae'r hydref yn amser gwych i weld madarch. Hywel Meredydd welodd rhain ym Mhlas Newydd, Môn

Blaen y Glyn ym Mannau Brycheiniog gan Adam Tatton-Reid

Carped o ddail dan draed ym Mharc Betws, Rhydaman, gan Ted Williams

Tarth a thywydd hydrefol ger Pont Llanrwst gan Steve Jones

Yr hydref yn dechrau euro'r coed o amgylch hen Ysbyty'r Chwarel yn Llanberis gan Richard Jones o Gaernarfon

Faint o wahanol ddail gafodd eu casglu yng Ngerddi Dyffryn, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru?

Adlewyrchion hydrefol ar doriad gwawr yn llyn The Punchbowl ger Blaenafon gan James Whelan

Dail wedi cochi

Dail crin mewn parc yng Nghaerdydd gan Selma Powell

Yr olygfa hydrefol wnaeth argraff ar Rebecca Jones wrth fynd am dro drwy Barc Bute, Caerdydd

Gardd ffrynt Dr Dimitra Fimi o Gaerdydd wedi ei haddurno gan goeden gyfagos

Cribyn a Phen y Fan yng ngolau'r lleuad gan Sion Thomas
Mae croeso ichi anfon eich lluniau tymhorol at cymrufyw@bbc.co.uk