Pryder am ddyfodol canolfan cefnogi cyn-filwyr o Gymru

  • Cyhoeddwyd
ptsd
Disgrifiad o’r llun,

Llynedd fe fynychodd 39 o gyn-filwyr o Gymru raglen driniaeth breswyl gyda Combat Stress

Mae AS o Gymru wedi mynegi pryder dros ddyfodol canolfan arbenigol sy'n cynnig cefnogaeth i gyn-filwyr o Gymru.

Mae canolfan Audley Court yn Sir Amwythig yn cael ei redeg gan elusen Combat Stress, ac yn darparu cymorth i gyn-filwyr sy'n dioddef o effeithiau anhwylderau iechyd meddwl fel PTSD.

Er nad yw'r ganolfan yn cau yn gyfan gwbl, ni fydd gwasanaethau preswyl ar gael yno o fis Ionawr 2018 ymlaen.

Mae Liz Saville Roberts o Blaid Cymru wedi disgrifio'r sefyllfa fel "pryder mawr", gan ddweud y gall effaith colli'r gwasanaeth fod yn "negyddol iawn" ar gyn-filwyr o Gymru.

'Prinder cyllid'

Mae Ms Roberts wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn galw arnynt i gamu mewn a sicrhau nad yw'r gwasanaethau yn Audley Court yn dod i ben.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod canllawiau NICE yn cyfeirio cleifion PTSD sy'n gyn-filwyr at driniaeth yn y gymuned, gan mai dyna'r dull mwyaf effeithiol o drin y cyflwr.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cael cais i ymateb.

Ffynhonnell y llun, Combat Stress
Disgrifiad o’r llun,

Mae lle i 24 o gyn-filwyr ar unrhyw adeg yng nghanolfan Audley Court

Llynedd fe fynychodd 39 o gyn-filwyr o Gymru raglen driniaeth breswyl gyda Combat Stress.

Mae Des Jones yn gyn-filwr o Nefyn, Gwynedd, ac wedi bod yn dioddef o gyflwr PTSD.

Bu'n gwasanaethu gyda chatrawd y Ffiwsilwyr Cymreig, a dywedodd ei fod yn hynod o ddiolchgar am y gefnogaeth a gafodd gan y ganolfan.

"Dwi heb fod yn Audley Court ers mis Tachwedd diwethaf, a dwi'n meddwl mai'r rheswm am hynny ydi oherwydd prinder cyllid i gynnal gwasanaethau yno," meddai.

"Yn Lloegr mae'r gwasanaeth iechyd yn talu am wasanaethau cefnogol i'w cyn-filwyr, ond nid yw'r GIG yng Nghymru yn gwneud hynny."

Dywedodd Mr Jones y byddai'n rhaid teithio i'r Alban neu Surrey i dderbyn gwasanaeth pe bai Audley Court yn cau.

'Anodd dallt'

"Dwi wedi bod yn mynd yno am gyfnodau ers 2001, a bryd hynny mi roedd y ganolfan yn derbyn arian gan elusennau fel Help the Heroes a'r Lleng Brydeinig, ac roeddwn yno am gyfnodau seibiant o bythefnos ar y tro, tua dwywaith y flwyddyn," meddai.

"Roedd yn wych, roeddwn i'n cael sesiynau efo seicolegwyr mewn awyrgylch anffurfiol a chartrefol, ac yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau myfyrio fel tai-chi.

"Beth sy'n anodd ei ddallt am hyn i gyd ydi fod rhan newydd o'r adeilad wedi cael ei adeiladu dwy flynedd yn ôl, sy'n rhoi cyfle i gyn-filwyr aros am gyfnodau hirach.

"Rydw i wedi dod ymlaen yn dda iawn efo fy mywyd ers i mi fynd yno gyntaf, a bellach yn gweithio'n llawn amser. Ond mae'r sefyllfa yma yn fy ngwneud yn drist ac yn gwneud i mi boeni am y bobl sydd angen y gefnogaeth a gefais i pan oeddwn ei angen."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Liz Saville Roberts AS fod y ganolfan yn chware rhan bwysig i helpu adfer cyn-filwyr

Dywedodd Liz Saville Roberts AS: "Mae ein cyn-filwyr yn haeddu'r safon uchaf o ran gofal ac mae rhoi terfyn i rai gwasanaethau yng Nghanolfan Audley Court yn bryder mawr.

"Mae'r ganolfan yn chware rhan bwysig i helpu adfer cyn-filwyr sy'n dioddef cyflyrau megis PTSD.

"Mae'r bygythiad i gau gwasanaethau cleifion preswyl yn Audley Court am gael effaith negyddol iawn ar gyn-filwyr, a fyddai'n gorfod teithio cannoedd o filltiroedd i Sir Essex neu'r Alban i dderbyn triniaethau cyffelyb.

"Defnyddiodd 128 o gyn-filwyr o Gymru'r cyfleusterau yn Audley Court y llynedd, ac mae'n hollbwysig nad yw'r triniaethau arbed bywyd posibl sydd ar gael yno allan o gyrraedd y rhai sydd eu hangen yn y dyfodol.

"Dyna pam yr wyf yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gan alw arnynt i gamu mewn a sicrhau nad yw'r gwasanaethau hyn yn cael eu colli."

Llai o arian

Dywedodd Sue Freeth, prif weithredwr Combat Stress, mai'r rheswm dros leihau gwasanaethau Audley Court yw eu bod yn rhagweld y bydd llai o arian ar gael yn y dyfodol, a hynny er y galw cynyddol am wasanaethau a thriniaethau'r ganolfan.

"Hoffwn sicrhau pawb nad ydym yn bwriadu cau ein canolfan yn Audley Court yn gyfan gwbl. Rydym yn bwriadu parhau i ddarparu triniaeth i gleifion allanol o'r ganolfan," meddai.

"Bydd y cynnig yma yn ein galluogi i ddarparu rhaglenni triniaeth fwy hyblyg a chynaliadwy i gyd-fynd ag ymrwymiadau i waith y cyn-filwyr a'u bywydau teuluol. Bydd hyn yn ein galluogi i gefnogi mwy o gyn-filwyr yn gyflymach ac yn fwy hyblyg.

"Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu rhaglenni preswyl yn ein dwy ganolfan driniaeth arall.

"Ar hyn o bryd rydym yn trafod â Llywodraeth Cymru ynghylch sut y gellid ariannu lleoedd ar ein Rhaglen Triniaeth Ddwys i gyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru yn y dyfodol."

'Ddim y dull mwyaf effeithiol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu gwasanaeth cenedlaethol ar sail tystiolaeth ar gyfer cyn-filwyr sy'n dioddef o anhwylder PTSD.

"Rydym yn darparu bron i £600,000 y flwyddyn i'r gwasanaeth, ac mae canllawiau cyfredol a chanllawiau NICE yn ein cyfeirio at driniaeth yn y gymuned sydd yn agos i gartref yr unigolyn fel y dull mwyaf effeithiol o drin PTSD ar gyfer cyn-filwyr," meddai.

"Yn 2013, comisiynwyd archwiliad annibynnol o'r angen am gyfleuster triniaeth breswyl i gyn-filwyr - cadarnhaodd yr adroddiad nad oedd unrhyw ofyn na galw am wasanaeth ar gyfer cyfleuster o'r fath."