'Rhaid i sefydliadau llenyddiaeth newid'
- Cyhoeddwyd
Bydd rhaid i sefydliadau llenyddiaeth a chyhoeddi Cymru newid yn sgil adroddiad beirniadol o'r maes, yn ôl ysgrifennydd yr economi.
Dwedodd Ken Skates, a oedd yn ymddangos gerbron pwyllgor diwylliant y Cynulliad, ei fod yn dal i ystyried pa newidiadau i'w gwneud ond mynnodd na allai'r sefyllfa aros yr un peth.
Roedd yr adolygiad i'r sector wedi argymell newidiadau mawr, gan gynnwys trosglwyddo'r rhan fwyaf o gyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru i Gyngor Llyfrau Cymru.
Dywedodd Mr Skates wrth bwyllgor diwylliant y Cynulliad: "Er nad ydw i wedi gwneud unrhyw benderfyniad ar yr argymhellion a anfonwyd ataf, rwy'n sicr o'r farn nad yw'r status quo bellach yn dderbyniol."
Derbyniodd Llenyddiaeth Cymru £717,000 gan Lywodraeth Cymru trwy Gyngor Celfyddydau Cymru y llynedd i hyrwyddo llenyddiaeth, tra bod Cyngor Llyfrau Cymru wedi derbyn £3.5 miliwn gan y llywodraeth i gyhoeddi a dosbarthu llyfrau.
Cadeiriodd yr Athro Medwin Hughes banel i adolygu gwaith y ddau sefydliad, ac i asesu'r sector ehangach.
Pan gafodd casgliadau'r adolygiad eu cyhoeddi mis Mehefin, fe amddiffynnodd aelodau blaenllaw'r byd llenyddiaeth waith Llenyddiaeth Cymru, tra bod cadeirydd y corff wedi beirniadu'r adroddiad a'i alw'n "hollol anghywir".
Mae Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru hefyd wedi cwestiynu cywirdeb yr adroddiad, ac wedi codi pryderon bod gwrthdaro buddiannau ymhlith aelodau panel yr adolygiad.
Mae eraill, gan gynnwys Cyngor Llyfrau Cymru, wedi cymeradwyo'r adroddiad.
Mae Mr Skates wedi amddiffyn y panel.
"Doeddwn i ddim wedi fy synnu gan yr ymateb cryf i'r adroddiad. Er fy mod yn derbyn bod tipyn o emosiwn yn gysylltiedig â hyn, dydw i ddim yn credu bod y feirniadaeth neu - ar adegau - yr ymosodiadau y mae rhai aelodau'r panel wedi'u derbyn wedi bod yn dderbyniol o gwbl. "
'Cryfhau'r diwydiant'
Fe fydd Mr Skates yn aros nes bod pwyllgor y Cynulliad yn cyhoeddi eu hadroddiad ar y pwnc cyn cyhoeddi ei gynlluniau i newid y sector, ond mynodd bod yn rhaid "cryfhau" y diwydiant gan ei fod yn derbyn arian cyhoeddus.
"Mae hyn yn golygu sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o arian trethdalwyr, ein bod yn cryfhau'r sector, ein bod yn gwasanaethu buddiannau y sector ac yn y pen draw, buddiannau pobl Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2017