Ymgyrch i wneud Cymru'n 'genedl cydraddoldeb rhyw'

  • Cyhoeddwyd
gweithleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tair ym mhob pump merch ifanc yn pryderu nad ydyn nhw'n cael yr un cyfleoedd â dynion ifanc

Mae menter newydd yn cael ei lansio er mwyn ceisio sicrhau mai Cymru yw'r wlad gyntaf yn y byd i gael cydraddoldeb rhyw.

Cafodd Girls Circle ei sefydlu i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol y Ferch yr wythnos hon.

Ddydd Gwener fe fydd dros 200 o ferched a phobl broffesiynol yn lansio'r mudiad yng Nghaerdydd.

"Yn bwysicach na dim, rydyn ni eisiau i fenywod a merched ifanc gael llais a llwyfan i leisio'u barn a'u hawgrymiadau ar sut i greu Cymru decach, fwy cyfartal," meddai Nikki Giant, sylfaenydd y grŵp.

'Diffyg rôl fodelau'

Daw'r lansiad yn sgil ymchwil gafodd ei gomisiynu gan y fenter yn dangos fod dros 90% o ferched ifanc yng Nghymru'n teimlo nad oedd digon o gefnogaeth iddyn nhw.

Roedd canran debyg hefyd yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd teimlo'n bositif am eu hedrychiad, tra bod mwyafrif hefyd yn credu nad oedden nhw'n cael yr un cyfleoedd â dynion ifanc.

Ar hyn o bryd dim ond chwarter y cynghorwyr yng Nghymru sy'n fenywod, a dim ond 4% o'r diffoddwyr tân sy'n fenywaidd.

Yn y lansiad ddydd Gwener mae disgwyl i ddisgyblion o ysgolion a cholegau yn ne Cymru siarad am y "diffyg rôl fodelau" sydd ganddyn nhw, a'r "stereoteipiau rhyw" sydd yn achosi'r anghydraddoldeb.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae dwy draean o fenywod ifanc yn dweud eu bod wedi eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl

Mae Girls Circle yn chwaer fudiad i Full Circle, grŵp sy'n ceisio ysbrydoli plant drwy ddarparu digwyddiadau, gweithdai, ac adnoddau ysgol.

Eu bwriad yw taclo "bwlio ar-lein" ac annog "cydraddoldeb rhyw ac iechyd meddwl positif", ac maen nhw'n bwriadu cynnal adolygiadau blynyddol i fesur cynnydd yn y meysydd hynny.

"Mae'n hymchwil ni'n siarad dros ei hun ac mae'r neges yn glir; does dim digon o gefnogaeth i ferched a menywod ifanc ar draws Cymru," meddai Ms Giant.

"Tra bod gan ysgolion gyfrifoldeb i sicrhau fod cydraddoldeb sy'n cael ei drafod fel rhan o'r cwricwlwm, dyw hyn jyst ddim yn digwydd ac oherwydd cyllidebau tynnach ac adnoddau staff prin, dyw hyn ddim yn syndod.

"Gyda Girls Circle roedden ni eisiau creu mudiad fydd yn gweithio ochr yn ochr â'n mudiad ysgolion, Full Circle Education, er mwyn lleihau'r pwysau ar staff dysgu a sicrhau fod yr agenda rhyw yn cael ei drafod."

Canlyniadau o'r arolwg, wnaeth holi 800 o ferched rhwng 14 a 21 oed:

  • 90% yn ei chael hi'n anodd teimlo'n bositif am eu hedrychiad corfforol;

  • 66% yn dweud fod problemau iechyd meddwl o ryw fath wedi eu heffeithio;

  • 59% yn pryderu nad oedd merched ifanc yn cael yr un cyfleoedd â dynion ifanc;

  • 80% yn teimlo dan bwysau i lwyddo yn academaidd;

  • 57% yn teimlo nad oedden nhw wedi cael digon o addysg yn yr ysgol neu'r coleg am gydraddoldeb.

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland y byddai eu gwaith yn "cefnogi, galluogi ac ysbrydoli merched ym mhobman i wireddu eu hawliau".

"Mae anghydraddoldeb rhyw a gwahaniaethu ar sail rhyw yn rai o'r pryderon sy'n cael eu codi fwyaf aml gyda fi gan bobl ifanc ar draws Cymru," meddai.

Ychwanegodd: "Llynedd fe wnaeth fy swyddfa i weithio ar adnodd gydag NSPCC Cymru, Prifysgol Caerdydd, Cymorth i Ferched Cymru a Llywodraeth Cymru i alluogi disgyblion i daclo anghydraddoldeb rhyw a thrais ar sail rhyw mewn ysgolion.

"Rydw i eisoes wedi gweld y newidiadau mae hynny'n gallu ei wneud i hyder, dealltwriaeth a pherthnasau pobl ifanc."