Maer yn gwadu cyhuddiadau o droseddau rhyw hanesyddol

  • Cyhoeddwyd
David Boswell

Mae Maer Penfro wedi gwadu cyhuddiadau o droseddau rhyw hanesyddol yn ei erbyn mewn ymddangosiad llys.

Mae David Boswell, 56, yn wynebu saith cyhuddiad o ymosod yn anweddus ac un cyhuddiad o dreisio rhwng 1991 ac 1994.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod y cyhuddiadau yn ymwneud â dau ddioddefwr honedig oedd o dan 13 oed ar y pryd.

Fe wnaeth Mr Boswell bledio'n ddieuog i'r holl gyhuddiadau, a bydd nawr yn dychwelyd i'r llys pan fydd yr achos yn dechrau ar 5 Chwefror.

Rhyddhau ar fechnïaeth

Mae disgwyl i'r achos bara pum niwrnod, ac yn y cyfamser mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Cafodd Mr Boswell ei ethol yn gynghorydd sir Ceidwadol dros ward Penfro Llanfair Gogledd ym mis Mai.

Mae cyfrifoldebau Maer Penfro wedi eu trosglwyddo i'w ddirprwy am y tro.