'Ddim yn amlwg beth yw budd' ailgyflwyno'r afanc i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae pysgotwyr wedi codi pryderon ynglŷn â manteision cynllun i ailgyflwyno afancod i afonydd Cymru am y tro cyntaf mewn 500 mlynedd.
Gallai aelodau'r cyhoedd gael cyfle'n fuan i ddweud eu dweud ar gynlluniau i ailgyflwyno'r anifail i gefn gwlad Cymru, yn dilyn cynlluniau tebyg yn yr Alban a Lloegr.
Yn dibynnu ar yr ymateb a'r dadleuon fydd yn codi, gallai penderfyniad terfynol gael ei wneud cyn diwedd y flwyddyn.
Ond mae Mark Lloyd, prif weithredwr yr Ymddiriedolaeth Bysgota wedi dweud nad yw'n "amlwg beth fydd y budd o hyn".
'Rôl allweddol'
Roedd yr afanc yn arfer bod yn anifail cynhenid i Brydain, ond fe gawson nhw eu hela i'w marwolaeth yn y Canol Oesoedd am eu ffwr.
Maen nhw wedi cael eu hailgyflwyno yn Yr Alban a Lloegr yn y blynyddoedd diwethaf, a nawr mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried cais i ryddhau 10 pâr o afancod i'r Afon Cywyn yn Sir Gâr.
Mae cefnogwyr y cynllun yn credu y byddai eu hailgyflwyno i Gymru yn dod â budd amgylcheddol ac economaidd.
Cafodd y cais ei gyflwyno gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru ac Ymddiriedolaeth Bevis, sydd yn barod i ryddhau tri theulu o afancod sydd ganddyn nhw ar eu tir.
"Mae gan afancod rôl allweddol i'w chwarae yn yr ecosystem," meddai Nick Fox, sylfaenydd Ymddiriedolaeth Bevis wrth raglen Eye on Wales.
"Maen nhw'n adeiladau argaeau yn yr afonydd llai sy'n llifo'n arafach - nid y rhai mawr - ac mae'r argaeau hynny'n gweithredu fel hidlwyr naturiol ar gyfer llygredd a gwaddod.
"Mae digon o astudiaethau gwyddonol wedi dangos sut y gall afancod wella safon y dŵr a lleihau llifogydd yn is i lawr yr afon. Does dim angen gwario llawer o arian y trethdalwyr yn gwneud hyn - gadewch i'r afancod wneud y gwaith."
Cafodd Afon Cywyn ei dewis ar gyfer yr arbrawf oherwydd ei bod yn gymharol fach a hunan-gynwysiedig, gyda digon o fwyd a lle i'r boblogaeth dyfu.
Byddai'r drwydded yn cael ei rhoi am bum mlynedd - digon o amser, meddai cefnogwyr y cynllun, i'r afanc ymgartrefu yng Nghymru.
'Fel llygod mawr'
Mae'r cynllun wedi denu beirniadaeth, fodd bynnag, gan gynnwys o gyfeiriad pysgotwyr.
"Mae llawer o flaenoriaethau pwysig iawn ynglŷn â safon y dŵr y dylai CNC fod yn canolbwyntio arno, yn hytrach na phrosiectau sydd yn 'neis i gael' ond lle nad ydi o'n amlwg beth fydd y budd o hyn," meddai Mr Lloyd.
"Mae 'na lawer o bethau ble mae'r buddiannau'n glir iawn, fel taclo llygredd amaethyddol, gor-echdynnu o afonydd, neu leihau rhai o'r rhwystrau dynol sydd wedi eu creu - byddai'r rhain yn flaenoriaethau llawer gwell."
Mae'r botanegwr Ray Woods, sydd wedi gweld cynllun tebyg ar waith yn Nyfnaint, hefyd yn pryderu ynglŷn â beth fydd yr afancod yn bwyta gan fod llawer o blanhigion yn rhan o'u diet.
"Fe wnes i ofyn y cwestiwn 'beth maen nhw'n ei fwyta' ac fe wnaethon nhw jyst ddweud 'sori Ray, 'dyn ni ddim yn gwybod'," meddai.
"Mae gan afancod y gallu i glirio coed a chael gwared ar rywogaethau prin a nodedig. Dwi'n aml yn cyfeirio atyn nhw fel llygod mawr â llif gadwyn.
"Ar ôl gweld beth maen nhw wedi gallu'i wneud yn Nyfnaint, dwi ddim yn meddwl mod i am newid fy marn o gwbl."
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach wedi cwblhau eu hasesiad cychwynnol o'r cais, ac wedi gofyn am ragor o wybodaeth gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru ac Ymddiriedolaeth Bevis cyn i gyfnod ymgynghori arall gael ei gynnal.
Bydd rhaglen Eye on Wales yn cael ei darlledu ar BBC Radio Wales am 18:30 ddydd Sul 15 Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2017