'Dim angen poeni' am brofion llygredd pridd ger tai ym Môn

  • Cyhoeddwyd
Stad Craig-y-DonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cyngor y byddan nhw'n darparu cefnogaeth i drigolion stad Craig-y-Don

Mae arweinydd Cyngor Môn wedi dweud fod "dim" i'w boeni yn ei gylch yn dilyn cyhoeddiad y bydd pridd ger stad o dai yn Amlwch yn cael ei brofi am lygredd.

Bydd profion yn cael eu cynnal ar erddi 112 o dai ar ar stad Craig y Don i weld a ydyn nhw wedi cael eu llygru gan waith toddi copr yn yr ardal.

Dywedodd y cyngor mai "cam rhagofalol" yn unig oedd y profion tir.

Tref Amlwch oedd prif ganolfan cynhyrchu copr y byd yn yr 19eg Ganrif, ac roedd gwrtaith hefyd yn cael ei gynhyrchu yno o tua 1889 ymlaen.

'Cam rhagofalus'

Cyn i stad Craig-y-Don gael ei hadeiladu yn yr 1950au roedd yr ardal yn cael ei hadnabod fel 'Gwaith Hills' - cyfeiriad at waith cemegau Hill's oedd yn creu'r gwrtaith.

O 1786 ymlaen roedd y safle hefyd wedi bod yn toddi copr, gyda llawer o'r gwaith yn digwydd rhwng cloddfa Mynydd Parys a phorthladd y dref.

Mae'r cyngor wedi ysgrifennu at drigolion i ddweud wrthyn nhw nad oes tystiolaeth o lygredd, ond bod dyletswydd arnyn nhw i ymchwilio i safleoedd bel all llygredd fod.

Disgrifiad o’r llun,

Gafodd trigolion y stad wybod yr wythnos hon y byddai'r profion yn cael eu cynnal

Maen nhw wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i benodi arbenigwyr i wneud y gwaith rhwng mis Rhagfyr ac Ionawr.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Llinos Medi Hughes fod disgwyl canlyniadau cychwynnol yr arolwg ym mis Mawrth 2018.

"Mae'r arolwg yn gam rhagofalol," meddai.

"Rydw i'n deall y bydd hyn yn codi pryderon ymysg trigolion, ond rydw i hefyd eisiau eu sicrhau y bydd y cyngor sir yn gwneud popeth allwn ni i sicrhau'r gefnogaeth a'r arweiniad priodol nes i'r mater hwn gael ei ddatrys."

Ychwanegodd mai "gwaith ymchwil yn unig" oedd yn cael ei wneud ar y tir, yn dilyn yr arian grant sydd wedi dod ar gael, ac nad oedd y cyngor yn chwilio am unrhyw gemegion penodol.

"Mae'n annhebyg iawn y byddwn ni'n ffeindio unrhyw beth yn y tir... beth ydi hyn ydi hanes diwydiannol i'r tir - dim tysiolaeth iechyd, dim byd arall."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llinos Medi mai amseru dyfarnu'r grant yn hytrach nag unrhyw bryderon diweddar oedd wedi codi yw'r rheswm am y gwaith

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Mynydd Parys oedd un o ganolfannau copr mwyaf y byd ar un cyfnod

Bydd tîm o gynghorwyr a swyddogion o'r cyngor yng Nghraig-y-Don o ddydd Llun ymlaen i gwrdd â thenantiaid a pherchnogion tai er mwyn ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw.

Dywedodd Shan Lloyd Williams, pennaeth gwasanaeth tai'r cyngor fydd yn arwain grŵp i fonitro'r gwaith: "Mae nifer fawr o dai ar y stad bellach dan berchnogaeth breifat, ond gan fod y mater yn effeithio ar y stad gyfan byddwn yn sicrhau fod y gwaith samplo yn digwydd ar ran pob un o'r trigolion, a hynny heb gost.

"Mae'r asesiadau yma'n hanfodol er mwyn tawelu meddyliau teuluoedd unigol a'r gymuned leol."

Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cael eu diweddaru am y sefyllfa.

'Pryder'

Dywedodd Aled Morris Jones, cynghorydd air sydd yn cynrychioli ward Twrcelyn ar yr ynys, mai'r wythnos diwethaf y cafodd o a'i gyd-gynghorwyr glywed am y profion fydd yn cael eu cynnal.

"Mae'n rhaid gwneud yr ymchwiliad rŵan yn dryloyw ac yn sydyn, achos os oes 'na bryder 'dan ni eisiau sicrhau'n bod ni'n dod drwy hyn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Aled Morris Jones fod yna "bryder" naturiol ymysg trigolion am mai dyma'r cyntaf roedden nhw wedi clywed am y profion

Ychwanegodd y byddai'n bwysig i'r cyngor "sefyll tu ôl" i drigolion os oedd unrhyw "oblygiadau" yn dod i'r gweill.

"Mae 'na bryder, yn naturiol, achos bod neb yn gwybod fod hyn yn mynd i ddigwydd," meddai.

Un sydd wedi byw ar y stad ers dros hanner canrif yw Catherine Hughes.

Mae hi'n dweud fod ei theulu wedi bod yn garddio yno drwy gydol y cyfnod, ac nad oedd hi'n credu bod unrhyw beth o'i le ar y tir.

"Dwi'n grediniol na welan nhw ddim byd o'i le," meddai.