'Rhestr fer o dri' i olynu Warren Gatland, meddai URC

  • Cyhoeddwyd
Warren GatlandFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies wedi dweud fod gan yr undeb restr fer o dri pherson i olynu Warren Gatland fel prif hyfforddwr.

"Rydyn ni lawr i tua thri ymgeisydd ac fe fyddwn ni'n edrych ar broses fwy ffurfiol yn y flwyddyn newydd," meddai.

Roedd cadeirydd URC yn siarad â chlybiau mewn cyfarfod blynyddol ddydd Sul, gan ddweud eu bod yn wynebu dyfodol ariannol "anodd" oherwydd y "wasgfa economaidd" cyffredinol.

Fe wnaeth hefyd ddatgelu cynlluniau cychwynnol ar gyfer diwygio'r corff sydd yn gyfrifol am rygbi yng Nghymru.

Dyfodol Gatland

Ers i Gatland gael ei benodi mae wedi ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad dair gwaith gyda Chymru, gan gynnwys dwy Gamp Lawn, yn ogystal â rheoli'r Llewod ddwywaith.

Does dim disgwyl iddo fod yn brin o gynigion am swyddi newydd pan fydd ei gytundeb â Chymru'n dod i ben yn dilyn Cwpan Rygbi'r Byd yn 2019.

Yn ôl Davies mae Cymru wedi bod yn edrych ar draws y byd i geisio dod o hyd i olynydd.

"Rydyn ni wedi siarad gyda rhyw wyth i 10 person allai fod â diddordeb yn y swydd, ac sydd â'r gallu i wneud y swydd," meddai.

Robert HowleyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rob Howley sydd wedi bod yn gyfrifol am dîm Cymru pan mae Gatland wedi bod i ffwrdd gyda'r Llewod

Rhybuddiodd y gallai URC weld eu hincwm yn gostwng yn y dyfodol, gydag ansicrwydd ar hyn o bryd ynglŷn ag ariannu cystadleuaeth y Chwe Gwlad.

Gallai hynny olygu mwy o bwyslais ar geisio defnyddio Stadiwm Principality ar gyfer cyngherddau, meddai, "gan na allwn ni gynyddu prisiau tocynnau a bod arian gan noddwyr yn aros yr un peth".

Ymysg y cynlluniau ar gyfer "moderneiddio" URC mae cynnig i leihau main y bwrdd i rhwng wyth a 12 - ar hyn o bryd mae ganddo 20 aelod a 14 cynrychiolydd rhanbarthol.

Mae disgwyl pleidlais ar y cynigion mewn cyfarfod arbennig gyda chlybiau URC yn nes ymlaen yn y tymor.