Dros 6,600 o dai heb drydan wrth i Ophelia daro Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae dros 6,600 o gartrefi wedi bod heb drydan yng Nghymru nos Lun yn sgil y tywydd garw gyda gwyntoedd cryfion i barhau ar hyd rhannau o'r gogledd tan 15:00 ddydd Mawrth.
Yn ôl cwmni Scottish Power, roedd 5,000 o dai wedi'u taro yn y gogledd gan wyntoedd Storm Ophelia.
Roedd cyfyngiadau hefyd ar nifer o ffyrdd, gan gynnwys yr M4, gyda choed wedi disgyn mewn rhai ardaloedd.
Cafodd yr hyrddiadau cryfaf - 90mya - eu cofnodi yn Aberdaron, Gwynedd.
Roedd y storm wedi effeithio rhan fawr o orllewin Cymru, gyda gwyntoedd o dros 80mya yng Ngwynedd, Ynys Môn a hefyd yn Abertawe.
Ddiwedd y prynhawn, dywedodd cwmni trydan Western Power bod dros 1,600 o dai yn dal heb drydan yn eu hardal nhw - yn bennaf de a chanolbarth Cymru. Ar draws y wlad, roedd tua 12,000 o dai wedi colli pŵer am rhyw gyfnod yn ystod y dydd.
Yn Wrecsam, cafodd dynes ei hanafu ar ôl cael ei tharo gan gangen coeden wnaeth ddisgyn.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, roedden nhw wedi delio â 60 o ddigwyddiadau cyfredol ar y ffyrdd.
Rhybuddion llifogydd
Mae asiantaeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio hefyd y gallai'r tywydd achosi llifogydd. Mae 'na rybuddion mewn grym ar gyfer:
Sir Gaerfyrddin - rhwng Pentywyn a Hendy;
Bae Abertawe ac arfordir Gŵyr - rhwng Pontarddulais a Llanilltud Fawr;
Ceredigion - rhwng Bae Clarach ac Aberteifi;
Sir Benfro - rhwng Llandudoch ac Amroth;
Penrhyn Llŷn - rhwng Afon Menai ac Aberdyfi;
Ynys Môn - rhwng Bae Cemlyn ac Ynys Llanddwyn.
Ynghyd â'r rhybudd oren ar gyfer gwyntoedd mewn rhannau o'r gorllewin a'r gogledd, mae rhybudd melyn ar gyfer y rhan fwyaf o weddill Cymru.
Cafodd degau o ysgolion eu cau am ran o'r dydd yn Sir Benfro, Ynys Môn, Gwynedd a Cheredigion.