Galw am fwy o arbenigwyr golwg ar gyfer ysgolion Cymru

  • Cyhoeddwyd
merch yn darllenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyflwr yn effeithio ar y modd mae'r llygaid yn prosesu gwybodaeth

Mae 'na alw am fwy o arbenigwyr golwg mewn ysgolion yng Nghymru er mwyn sicrhau fod plant sydd â Syndrom Irlen yn cael diagnosis cynnar.

Yn ôl Irlen UK, mae addysg nifer o blant yn dioddef gan nad ydyn nhw'n ymwybodol eu bod yn dioddef o'r syndrom.

Mae'r cyflwr yn effeithio ar allu'r ymennydd i brosesu gwybodaeth o'r llygaid, sydd yn ei dro yn creu anhawster gyda darllen ac ysgrifennu.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, fod holl ddisgyblion Cymru yn cael prawf llygaid pan maen nhw'n dechrau yn yr ysgol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Syndrom Irlen yn gallu effeithio ar allu pobl i ddarllen ac ysgrifennu

Syndrom Irlen

  • Anhwylder prosesu ydy'r syndrom - nid problem optegol.

  • Yn ôl Irlen UK mae tua 15% o bobl yn cael eu heffeithio mewn rhyw fodd gan y syndrom.

  • Mae'n bosib fod y rhai sydd â'r cyflwr hefyd yn dioddef o ADHD, dyslecsia a phroblemau ymddygiad.

  • Nid yw'r cyflwr yn cael ei gydnabod fel cyflwr meddygol, gan olygu nad yw'r driniaeth yn cael ei ariannu gan y Gwasanaeth Iechyd.

  • Fe allai lensys lliw gael eu gwisgo er mwyn gweithio fel ffilter i atal tonfeddi penodol o oleuni - ond gallai triniaeth gostio hyd at £450.

Yn ôl pobl sy'n dioddef o'r cyflwr, byddai ymyrraeth gynnar yn yr ysgol wedi bod o fudd.

Mae profion yn gallu penderfynu os oes gan unigolyn y cyflwr, ac yna mae lensys o liw penodol yn gallu cael eu defnyddio i fynd i'r afael â'r effeithiau.

Fe wnaeth Jennifer Owen, 28 o Ferthyr Tudful, ganfod ei bod yn diodde' o'r cyflwr yn 2012. Mae hi nawr yn ymgyrchu i geisio codi ymwybyddiaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jennifer Owen bod perygl bod plant yn "cael cam"

Fe fethodd â chael unrhyw gymwysterau TGAU ond mae'n credu y byddai wedi gwneud yn well pe bai wedi cael diagnosis o'r cyflwr yn yr ysgol.

"Do'n i'n methu ysgrifennu na darllen. Roedd yr athrawon yn meddwl nad o'n i'n trio," meddai.

"Mae 'na risg o blant yn cael cam."

'Blino ar y system addysg'

Dywedodd Stephanie Jamison, sy'n gweithio i Irlen UK, bod saith o bobl sydd wedi cymhwyso i asesu'r cyflwr mewn ysgolion yng Nghymru, ond bod angen mwy.

"Mae'n bosib y bydd rhai plant yn blino ar y system addysg oherwydd bod astudio yn anodd," meddai.

"Dim problem darllen yn unig ydy hi, ond problem o ran sensitifrwydd i olau a gallai hyn effeithio ar allu i ganolbwyntio a gallai achos blinder."

Dywedodd Kirsty Williams fod holl ddisgyblion Cymru yn cael prawf llygaid wrth ddechrau'r cyfnod addysg.

"Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ymateb yn gynnar ac yn effeithiol, er mwyn sicrhau nad yw unrhyw ddisgybl yn profi unrhyw anawsterau gyda'u golwg ac na fydd hyn yn ei dro yn effeithio ar eu perfformiad addysgol," meddai.