Diogelu plant Powys: Rhybudd gan Lywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio Cyngor Powys eu bod yn barod i ymyrryd yn dilyn cyhoeddi adroddiad beirniadol am wasanaethau plant.
Yn ôl arolygwyr mae 'na berygl o niwed i blant oherwydd gwendidau difrifol yng ngwasanaethau cymdeithasol Cyngor Powys.
Mewn datblygiad arall mae prif weithredwr Cyngor Powys wedi cadarnhau bod yr awdurdod yn siarad â'r heddlu ynglŷn â honiadau fod data wedi ei gam-drin.
Bydd uwch swyddogion y cyngor yn cwrdd â'r heddlu ddydd Iau i drafod y sefyllfa.
Mewn ymateb dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ei bod yn "siomedig ac wedi synnu" ar ôl clywed am y bwriad i gynnal trafodaethau rhwng y cyngor a'r heddlu yn y cyfryngau.
Mewn datganiad yn y Cynulliad fe fynegodd Ms Evans bryder am y sefyllfa, ac fe gafodd ei ddatgelu bod Estyn wedi mynegi pryder hefyd.
Cafodd ei gyhoeddi bod gweinidogion wedi gorchymyn cyflymu'r broses o gynnal adolygiad o wasanaethau cymdeithasol oedolion yr ardal.
Methiannau
Dywedodd Cyngor Powys y bydd hi'n costio £4m i gyflwyno'r "gwelliannau angenrheidiol" oherwydd methiannau gan adran gwasanaethau cymdeithasol y sir roddodd blant mewn perygl o niwed.
Mae gan y cyngor 20 diwrnod i gyflwyno cynllun gwelliant ar ôl i adroddiad gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) fynegi pryder difrifol am y gwasanaethau cymdeithasol.
Nos Fawrth fe ddatgelodd Cyngor Powys eu bod wedi bod yn trafod gyda'r heddlu am y posibilrwydd bod data am berfformiad o fewn gwasanaethau plant wedi ei newid.
Dywedodd arweinwyr y cyngor bod cyllid ar gael i fuddsoddi yn y gwasanaethau cymdeithasol.

Mae arweinydd Cyngor Powys, Rosemarie Harris, wedi ymddiheuro
Mae'r cyngor wedi cael 90 diwrnod i wella neu wynebu mesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru.
"Rydym eisoes wedi cynnal trafodaethau am y buddsoddiad sydd ei angen," meddai Rosemarie Harris, arweinydd Cyngor Powys.
"Mae'r arian gennym i wneud y gwelliannau angenrheidiol. Mae'n debyg o gostio tua £4m."
Dywed adroddiad AGGCC fod yna dystiolaeth fod cyfleoedd i ddiogelu plant wedi eu methu.
'Plant mewn perygl'
Mae Ms Harries, a Jeremy Patterson, prif weithredwr Cyngor Powys, wedi cwrdd â Ms Evans, ac maen nhw wedi amlinellu cynllun ar gyfer sicrhau gwelliannau.
Dywedodd Mr Patterson: "Rydym wedi nodi ffynhonnell ar gyfer y cyllid a bydd hyn yn rhan o gyllideb y flwyddyn nesaf."
Yn ôl dogfen AGGCC, dangosodd eu hadolygiad bod "diffyg cynllunio ar gyfer asesu, gofal a chymorth" yng ngwasanaethau'r sir.
Roedd "dull anghyson o weithio" yn unol â chanllawiau sy'n diogelu plant rhag ecsbloetio rhywiol yn golygu bod "plant mewn perygl o niwed", meddai'r adroddiad.

Dywedodd Jeremy Patterson y gallai data am berfformiad y gwasanaeth fgod wedi ei newid
Yn siarad ar raglen Good Morning Wales ar BBC Radio Wales ddydd Mercher, dywedodd Mr Patterson bod newidiadau wedi bod i uwch reolwyr ar ôl i "bryderon difrifol iawn" gael eu hamlygu.
Dywedodd bod ymchwiliad wedi dechrau, a bod modd gweld pwy sydd wedi trin pa ddata o fewn y system.
"Rydyn ni'n gwybod pwy sy'n gallu a phwy sydd ddim yn gallu mynd at y data, a phwy sy'n gallu rhoi data i mewn i'r system.
"Fel ddywedodd yr arweinydd ddoe, roedd un o'r dangosyddion perfformiad ar gyfer asesiadau statudol ar gyfer chwarter olaf y llynedd - hanner cyntaf eleni - yn dangos yn wyrdd, pan yn amlwg nid dyna oedd yr achos."
Dywedodd Ms Harris: "Mae'n ddrwg gennym i ni fethu cwrdd â'r safonau uchel y mae ein trigolion yn eu haeddu ac rydym yn ymddiheuro am ein diffygion."
Dywedodd bod mwy o staff wedi eu penodi ers yr etholiad ym mis Mai, gan gynnwys pennaeth gwasanaethau newydd a chyfarwyddwr gofal cymdeithasol newydd dros dro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2017