Storm Ophelia yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Bydd plant Allana Silvestri-Jones o Dalgarreg, Ceredigion yn gorfod aros am ychydig cyn cael cyfle i chwarae ar eu trampolîn eto


Car yn brwydro ei ffordd drwy'r ewyn môr ym Mae Trearddur, Ynys Môn ddoe


Diwrnod cyffredin arall yn Niwgwl, Sir Benfro?


Roedd 'na rybudd i bobl gadw'n glir o'r jeti ger y pier yn Aberystwyth oherwydd y storm. Felly....


Ond nid Ophelia oedd yn gyfrifol am yr haul coch anarferol welodd nifer ohonom ni, ond effaith tanau ym Mhortiwgal.


Cychod yn ymladd y tonnau ym mhorthladd Porthclais, ger Tyddewi


Ac wrth gwrs, roedd coed yn syrthio'n achosi trafferth i fodurwyr, fel yma ger Llanrwst...


...ac yma ar Ffordd y Coleg, Bangor


Ac ar ôl y storm, mae'r gwaith clirio'n dechrau yn Sir Gâr
